News Centre

Rhoddion cwmni adeiladu yn helpu trigolion Caerffili

Postiwyd ar : 24 Ion 2022

Rhoddion cwmni adeiladu yn helpu trigolion Caerffili
L - R: Daniel Jones (Willmott Dixon), Jemma Shepherd (CCBC), Ian Jones (Willmott Dixon), Cllr Shayne Cook, Martin Bennett (Willmott Dixon) & Cllr Eluned Stenner
Yn ddiweddar, mae'r cwmni adeiladu, Willmott Dixon, wedi rhoi arian a fydd o gymorth i lawer o drigolion ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.
 
Mae'r contractwr wedi'i benodi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i gyflawni elfen allweddol o'i raglen adeiladu tai newydd; mae safleoedd yn Nhrecenydd a Thretomos yn cael eu datblygu ar hyn o bryd.
 
Fe wnaeth Willmott Dixon roi £1,000 i apêl banc bwyd y Nadolig, a gafodd ei chynnal gan y Cyngor; mae'r apêl wedi codi cyfanswm o £10,500 a mwy i alluogi banciau bwyd ledled y Fwrdeistref Sirol i brynu'r cyflenwad sydd eu hangen arnyn nhw. Yn ogystal, fe wnaeth Willmott Dixon hefyd roi nifer o becynnau ‘paratoi ar gyfer byd gwaith’ i'r rhai sydd wedi cofrestru ar gyfer cymryd rhan yn rhaglenni cymorth cyflogaeth y Cyngor.
 
Meddai'r Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ofal Cymdeithasol a Thai, “Mae'r Cyngor wedi cychwyn ar raglen uchelgeisiol o adeiladu tai cyngor a fydd yn golygu buddsoddiad sylweddol dros y blynyddoedd nesaf. Rydyn ni, fel Cyngor, wedi ymrwymo i helpu ateb y galw am dai a hefyd i wneud y gorau o'r buddsoddiad mewn tai newydd er mwyn darparu buddion llawer ehangach i gymunedau lleol.
 
“Hoffwn i ddiolch i Willmott Dixon am eu cyfraniad at yr apêl banc bwyd blynyddol, a fydd yn cael ei ddefnyddio i brynu cyflenwadau brys ar gyfer pobl sy'n wynebu anawsterau ariannol difrifol. Bydd y pecynnau ‘paratoi ar gyfer byd gwaith’ hefyd yn helpu cael gwared ar rwystrau yn achos y rhai sy'n cymryd rhan, trwy ddarparu eitemau hanfodol i'w helpu nhw gyda'r camau cyntaf ar eu taith i fyd hyfforddiant neu gyflogaeth.
 
“Rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i adeiladu ar ein partneriaeth gyda Willmott Dixon i helpu ateb y galw cynyddol am dai fforddiadwy yn y Fwrdeistref Sirol ac i adael gwaddol parhaol o ganlyniad i'r buddsoddiad hwn.”
 
Ychwanegodd Ian Jones, Cyfarwyddwr, Willmott Dixon, “Rydyn ni wedi ymrwymo i roi cymorth i'r cymunedau ehangach lle rydyn ni'n adeiladu, ac ymgysylltu â nhw. Drwy weithio'n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, rydyn ni wedi gallu nodi lle y gallwn ni ddarparu cyfleoedd a chymorth wrth i ni gyflawni'r cynlluniau tai newydd. Mae'r pecynnau ‘paratoi ar gyfer byd gwaith’ rydyn ni wedi'u darparu yn rhan o'n hethos ni i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn achos y bobl sy'n byw'n lleol, a gan fod y 12 mis diwethaf wedi bod mor anodd i gynifer o bobl, roedden ni'n falch iawn o allu cynnig rhodd i Apêl Banc Bwyd y Cyngor.”


Ymholiadau'r Cyfryngau