News Centre

Buddsoddiad mawr Cyngor Caerffili i greu bywydau iachach

Postiwyd ar : 24 Ion 2022

Buddsoddiad mawr Cyngor Caerffili i greu bywydau iachach
Dros y pedair blynedd diwethaf, mae Cyngor Caerffili wedi buddsoddi yn sylweddol mewn seilwaith er mwyn sicrhau y gall trigolion Caerffili fyw bywydau iachach mewn lleoedd iachach.
 
Drwy fuddsoddiad ystyriol o hyd at £500 miliwn hyd yma rydym wedi creu cyfleusterau newydd o'r radd flaenaf er mwyn galluogi trigolion i fyw bywydau mwy egnïol a chynaliadwy mewn ardaloedd ledled y Fwrdeistref Sirol.
 
Mae'r £300,000 a wariwyd i uwchraddio cyfleusterau ffitrwydd Canolfannau Hamdden Caerffili a Threcelyn yn enghraifft wych o'r buddsoddiad hwn sydd wedi sicrhau cyfleusterau addas at y diben sydd o safon uchel ac sy'n cefnogi lles cwsmeriaid.
 
Drwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru, gwnaeth Caerffili sicrhau mwy na £300,000 mil er mwyn creu Hwb Hoci o'r radd flaenaf yng Nghanolfan Hamdden Sue Noake yn Ystrad Mynach. Mae'r Hwb yn ychwanegol i'r trac rhedeg synthetig chwe lôn, 300 metr â llifoleuadau yn Oakdale – y cyntaf o'i fath o fewn y Fwrdeistref Sirol.
 
Mae mwy na £800,000 wedi ei wario i drawsnewid hen Ddepo Penallta yn Siop Ailddefnyddio. Y cyfleuster blaenllaw hwn yw'r cyntaf o'i fath yn sir Caerffili, ac mae'n enghraifft wych o gynaliadwyedd cymdeithasol ac amgylcheddol. Caiff eitemau, a fyddai yn y gorffennol wedi eu gwaredu yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref, eu hadnewyddu a'u gwerthu fel nwyddau ailddefnyddiadwy fel rhan o fenter gymdeithasol.”
 
“Mae'r buddsoddiadau hyn yn cynnig cipolwg ar y gwaith sylweddol sydd wedi ei wneud ledled y sir,” meddai'r Cynghorydd Ross Whiting, Aelod y Cabinet dros Ddysgu a Hamdden, ac ychwanegodd, “mae llawer o'r prosiectau hyn yn cryfhau'r ymrwymiad a'r weledigaeth a amlinellwyd o fewn ein Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol ymhellach - i alluogi pobl i wneud ymarfer corff yn amlach.”
 
Dywedodd y Cynghorydd Nigel George, Aelod y Cabinet dros Wastraff, Amddiffyn y Cyhoedd a Strydoedd, “Rydym yn canolbwyntio'n frwdfrydig ar ein hagenda ailgylchu ac mae buddsoddiadau sylweddol wedi cael eu gwneud i wella ein gwasanaethau er mwyn cefnogi trigolion i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu.”
 
Bydd gofyn i drigolion chwarae rhan hollbwysig i helpu i lunio'r cynigion, drwy nodi beth sydd ar goll er mwyn sicrhau bod y cyngor yn targedu ei fuddsoddiad lle mae'r angen mwyaf. Bydd y manylion am sut y gall y gymuned gymryd rhan yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol agos.
 
Am ragor o wybodaeth am y buddsoddiad yn eich ardal chi, ewch i www.caerphillyplaceshaping.co.uk/cy/
 


Ymholiadau'r Cyfryngau