News Centre

Buddsoddiad mawr Cyngor Caerffili yn y gymuned fusnes

Postiwyd ar : 10 Ion 2022

Buddsoddiad mawr Cyngor Caerffili yn y gymuned fusnes
Dros y pedair blynedd diwethaf, mae Cyngor Caerffili wedi buddsoddi yn sylweddol mewn seilwaith er mwyn sicrhau bod Caerffili yn Lle Gwych i Wneud Busnes.
 
Mae'r rhaglen Llunio Lleoedd wedi buddsoddi £500m, sy'n swm syfrdanol, mewn nifer o brosiectau hyd yn hyn i gefnogi twf yn y sector busnes a thwristiaeth yn y fwrdeistref sirol fel rhan o lasbrint trawsnewid uchelgeisiol.
 
Un enghraifft dda o'r buddsoddiad hwn yw'r glasbrint adfywio uchelgeisiol i drawsnewid canol tref Caerffili. Defnyddir swm o £36 miliwn i ddatblygu parc busnes newydd, cyfnewidfa drafnidiaeth, a rhaglen i roi Virgin Media ar waith er mwyn darparu rhyngrwyd cyflym i'r ardal.
 
Enghraifft arall o fuddsoddiad sylweddol yw'r £6 miliwn a fuddsoddwyd i greu dau barc busnes pwrpasol, Tŷ Du yn Nelson ac estyn Ystâd Ddiwydiannol y Lawnt yn Rhymni.
 
Dywedodd y Cyng. Eluned Stenner, Aelod y Cabinet dros Berfformiad, yr Economi, a Menter, “Mae'r buddsoddiad sylweddol wedi canolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth allweddol i helpu i adfywio a gweddnewid ein cymunedau. Adfywio yw nod popeth rydym yn ei wneud yng Nghyngor Caerffili er mwyn sicrhau bod ein cymuned fusnes yn cael ei chefnogi a'n bod yn adeiladu cymunedau sy'n addas i'r dyfodol. Rydym yn parhau i weithio gyda'n partneriaid yn Llywodraeth Cymru i gyflawni prosiectau mawr, cyffrous ar ein stryd fawr a'r tu hwnt.”
 
Bydd gofyn i breswylwyr chwarae rhan hollbwysig wrth helpu i lunio'r cynigion, drwy ddynodi beth sydd ar goll er mwyn sicrhau bod y cyngor yn targedu ei fuddsoddiad lle mae'r angen mwyaf. Bydd manylion am ffyrdd i'r gymuned gymryd rhan yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol agos.
 
Am ragor o wybodaeth am y buddsoddiad yn eich ardal chi, ewch i www.caerphillyplaceshaping.co.uk/cy/
 


Ymholiadau'r Cyfryngau