Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Ionawr 2022
Y Cabinet yn cymeradwyo’r Map Rhwydwaith Teithio Llesol drafft
News Centre
Y Cabinet yn cymeradwyo’r Map Rhwydwaith Teithio Llesol drafft
Postiwyd ar : 19 Ion 2022
Yn ddiweddar, mae’r Cabinet wedi nodi a chymeradwyo’n ffurfiol ganlyniadau’r ymgynghoriad ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol drafft (y Map).
Mae cymeradwyaeth y Cabinet yn galluogi Map Rhwydwaith Teithio Llesol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a gafodd ei gyflwyno yn amodol i Lywodraeth Cymru erbyn y dyddiad cau, sef 31 Rhagfyr 2021, i gael ei gadarnhau’n ffurfiol ac mae’n sicrhau bod rhwymedigaeth statudol y Cyngor yn cael ei bodloni.
Ers cymeradwyo'r mapiau newydd yn ffurfiol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cyhoeddi nhw ar ei gwefan, MapDataCymru. Bydd y gwefan yn cynnwys nid yn unig fap Teithio Llesol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ond hefyd fapiau eraill mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn eu darparu. Bydd rhanddeiliaid yn gallu gweld y rhain yn ystod yr wythnosau nesaf.
Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus tri cham ei gynnal, ac roedd y cam olaf yn cwmpasu ymgynghoriad cyhoeddus statudol, 12 wythnos o hyd i ofyn am farn trigolion a rhanddeiliaid ar y llwybrau presennol a'r rhai newydd ac arfaethedig. Roedd angen cymeradwyo fersiwn derfynol y Map er mwyn cyflwyno map amodol i Lywodraeth Cymru erbyn y dyddiad cau, sef 31 Rhagfyr 2021.
Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru wella eu llwybrau teithio llesol nhw yn barhaus a chynllunio sut y bydd llwybrau’n uno i ffurfio rhwydweithiau fel bod pobl yn gallu mynd o gwmpas yn haws ar feic neu fel cerddwyr ar gyfer eu teithiau bob dydd nhw i'r gwaith, i’r ysgol ac i gyrchfannau lleol eraill.
Mae teithio llesol yn golygu cerdded a beicio, gan gynnwys y defnydd o sgwteri symudol, ar gyfer teithiau bob dydd. Mae hyn yn cynnwys teithiau i’r ysgol, i’r gwaith, i’r siopau neu i gael mynediad at wasanaethau, fel canolfannau iechyd neu hamdden. Nid yw teithio llesol yn cynnwys cerdded a beicio at ddibenion hamdden, fodd bynnag, mae manteision amlwg i lwybrau o’r fath. Mae teithio llesol yn bwysig i hyrwyddo dull byw iachach a lleihau’r effeithiau negyddol o draffig ar ein cymdogaethau a'n cymunedau ni.
Nod y Ddeddf yw gwneud teithio llesol yr opsiwn mwyaf deniadol ar gyfer teithiau byrrach. Yn ogystal â chynhyrchu mapiau teithio llesol, mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru gyflawni gwelliannau bob blwyddyn i lwybrau a chyfleusterau teithio llesol ac i wneud gwelliannau i lwybrau a chyfleusterau i gerddwyr a beicwyr mewn cynlluniau ffyrdd newydd, er mwyn rhoi sylw i anghenion cerddwyr a beicwyr mewn ystod o swyddogaethau eraill awdurdodau priffyrdd ac i hyrwyddo teithio llesol.
Dim ond i ardaloedd ‘dynodedig’ penodol yng Nghymru y mae’r Ddeddf yn berthnasol; mae'r ardaloedd hyn wedi’u pennu gan Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar faint poblogaethau aneddiadau. Mae’r cymunedau/ardaloedd hynny sydd wedi’u cynnwys yn y Ddeddf ym Mwrdeistref Sirol Caerffili fel a ganlyn:
Aberbargod
Tredegar Newydd
Abercarn
Trecelyn
Abertridwr
Pontllan-fraith
Bargod
Pontlotyn
Coed Duon
Rhymni
Caerffili
Rhisga
Cwmfelin-fach
Wattsville
Llanbradach
Ynys-ddu
Machen
Ystrad Mynach
Nelson
Mae’r fersiwn ymgynghori o’r Map drafft ar gael yn:
https://caerphilly3.commonplace.is/cy-GB
Mae’r Map yn cynnwys manylion am:
Y llwybrau teithio llesol presennol sydd wedi'i gymeradwyo eisoes gan Lywodraeth Cymru yn dilyn cyflwyno'r Map Rhwydwaith Integredig.
Cynigion yn y dyfodol ar gyfer gwella ac ehangu'r rhwydwaith teithio llesol.
Mae manylion yr ymarfer ymgynghori wedi'u nodi yn adran 10 o'r adroddiad sydd wedi'i gyflwyno i'r Cabinet, ynghyd â chrynodeb o'r ymatebion, ond roedd cefnogaeth eang i gynigion y Map. Cafodd yr wybodaeth hon ei chyflwyno hefyd i Bwyllgor Craffu’r Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ei gyfarfod ar 7 Rhagfyr 2021, a chafodd y Map drafft ei gefnogi yn unfrydol. Felly, cafodd y Map ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn y dyddiad cau, sef 31 Rhagfyr 2021, yn amodol ar gymeradwyaeth ffurfiol gan y Cabinet.
Bydd datblygu a chyflawni’r cynigion yn dibynnu ar gyllid yn parhau i fod ar gael ar gyfer cynlluniau teithio llesol, yn bennaf gan Lywodraeth Cymru. Mae’n bosibl y bydd gofynion cyfleoedd ariannu ar gyfer teithio llesol yn y dyfodol yn dylanwadu ar ba gynlluniau a gaiff eu datblygu yn y tymor byr, er mwyn sicrhau bod y cynlluniau hynny sydd fwyaf tebygol o gael cyllid yn cael eu blaenoriaethu.
Dywedodd y Cynghorydd James Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Isadeiledd ac Eiddo, “Hoffwn i ddiolch i’r rhai a gymerodd ran yn yr ymgynghoriadau i’n galluogi ni i gyrraedd y cam hwn.
“Rydyn ni, fel awdurdod lleol, wedi ymrwymo i weithio tuag at ail-ddychmygu ac ail-lunio ein hardaloedd ni ar gyfer beicio, cerdded a theithio llesol. Mae gennym ni gyfle i adeiladu dyfodol gwell sy’n darparu rhagor i’n trigolion ni a chenedlaethau’r dyfodol, yn gymdeithasol ac yn economaidd, gan greu cymunedau glanach, gwyrddach ac iachach.”
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Rhybudd i drigolion Bargod am alwyr diwahoddiad yn cynnig ail-chwistrellu patios
Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon wedi’i hagor yn swyddogol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Teyrngedau i'r cyn Faer
Cwpl o Drelyn yn cael eu dedfrydu am droseddau lles anifeiliaid a bridio cŵn yn anghyfreithlon
Trawsnewid bywydau trwy brosiect Allweddi Caerffili
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y