News Centre

Cabinet yn cymeradwyo cynllun adfywio ar gyfer Cymoedd Isaf Ebwy a Sirhywi

Postiwyd ar : 14 Ion 2022

Cabinet yn cymeradwyo cynllun adfywio ar gyfer Cymoedd Isaf Ebwy a Sirhywi
Fe wnaeth Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gymeradwyo cynigion adfywio uchelgeisiol ar gyfer ardal Cymoedd Isaf Ebwy a Sirhywi, yn amodol ar ymgynghoriad cyhoeddus.

Bydd proses ymgynghori, 6 wythnos o hyd, yn cael ei chynnal rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2022, pan fydd cyfle i'r cyhoedd fynegi eu barn ar Uwchgynllun Drafft Cymoedd Isaf Ebwy a Sirhywi. Mae'r cynllun drafft yn canolbwyntio ar y coridor rhwng Trecelyn a Rhisga.

Yn ogystal ag adeiladu ar y cryfderau presennol o ran cyflogaeth a thwristiaeth yn yr ardal hon, nod yr uwchgynllun yw hyrwyddo'r ardal ymhellach fel prif leoliad ar gyfer cyflogaeth, twristiaeth a hamdden. 

Meddai'r Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet y Cyngor dros Berfformiad, yr Economi a Menter, “Byddwn ni'n gofyn i'r cyhoedd fynegi eu barn ar y cynigion drafft, fel y gallwn ni ddeall anghenion a blaenoriaethau'r cymunedau yn yr ardaloedd hyn yn well.

“Bydd yr uwchgynllun terfynol yn ceisio adeiladu ar gryfderau presennol yr ardal, a datblygu'r rhain ymhellach trwy ddefnyddio cyfleoedd i ddod o hyd i gyllid allanol ac i ysgogi'r economi leol.”


Ymholiadau'r Cyfryngau