News Centre

Cymeradwyo cynlluniau cyllideb y Cyngor

Postiwyd ar : 28 Chw 2024

Cymeradwyo cynlluniau cyllideb y Cyngor
Councillor Eluned Stenner, Cabinet Member for Finance

Fe wnaeth Cynghorwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyfarfod nos Fawrth (27/02/24) i gytuno ar gyllideb y Cyngor ar gyfer 2024/25, yn dilyn cyfnod o ymgynghoriad cyhoeddus.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, y Cynghorydd Eluned Stenner, “Rydyn ni'n wynebu heriau ariannol sylweddol dros y blynyddoedd nesaf – heriau nad ydyn ni wedi eu hwynebu erioed mo'u tebyg o'r blaen.

“Mae'n amlwg y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd iawn, ac mae'n rhaid i ni barhau i edrych ar sut rydyn ni'n darparu gwasanaethau cynaliadwy, sy'n diwallu anghenion ein cymunedau nawr ac yn y dyfodol, mewn amgylchedd ariannol hynod heriol.”

Yn ystod y cyfarfod, fe wnaeth y Cynghorydd Stenner helpu amlinellu'r cefndir ynghylch maint yr her sydd i ddod – “Ers 2008, mae'r Cyngor wedi sicrhau arbedion gwerth mwy na £111 miliwn. Fodd bynnag, yn ystod y tair blwyddyn ariannol nesaf, rydyn ni'n wynebu gorfod sicrhau rhagor o arbedion gwerth tua £65 miliwn.”

Er mwyn cyflawni hyn, mae'r Cyngor yn cychwyn ar raglen drawsnewid fawr, o'r enw Mwstro Tîm Caerffili. Mae llawer o waith yn cael ei wneud ar bob lefel ar draws y sefydliad i ail-lunio ac ad-drefnu'r ffordd y mae'r Cyngor yn gweithredu er mwyn nodi arbedion effeithlonrwydd, a bydd y gwaith hwn yn dod yn bwysicach fyth dros y blynyddoedd i ddod.

Dyma elfennau allweddol o'r gyllideb eleni:

  • Cynnydd o 2.5% yn y Setliad Ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25
  • Amrywiaeth o arbedion parhaol a dros dro gwerth cyfanswm o £31 miliwn
  • Defnyddio £10.6 miliwn o gronfeydd wrth gefn y Cyngor
  • Cynnydd o 6.9% yn Nhreth y Cyngor a fydd yn golygu bod praesept Band D yn cynyddu o £1,353.01 i £1,446.37 (cynnydd o £93.36 y flwyddyn neu £1.80 yr wythnos) 

“Rwy'n sylweddoli nad yw'r un ohonom ni eisiau cynnydd yn Nhreth y Cyngor, ond y gwir amdani yw, heb y cynnydd bychan hwn, y byddai angen i ni ystyried toriadau mwy annymunol ac amhoblogaidd i wasanaethau.

“Mae'n bwysig cofio, er gwaethaf y cynnydd bychan, ei fod yn debygol y bydd ein Treth y Cyngor ymhlith yr isaf yng Nghymru yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod,” ychwanegodd y Cynghorydd Stenner.

Mae'r adroddiad llawn ar y gyllideb a'r argymhellion ar gael yma:

https://democracy.caerphilly.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=127&MId=13986&LLL=1

 



Ymholiadau'r Cyfryngau