News Centre

Dedfryd o garchar am 18 mis i berchennog siop a gafodd ei ddal yn gwerthu tybaco anghyfreithlon

Postiwyd ar : 23 Chw 2024

Dedfryd o garchar am 18 mis i berchennog siop a gafodd ei ddal yn gwerthu tybaco anghyfreithlon

Mae perchennog siop o Gaerffili wedi cael ei ddedfrydu i 18 mis o garchar am werthu sigaréts a chynhyrchion thybaco ffug.

Cafodd Amanj Mawlod Tawfik, 36 oed o Bwlch Road, Caerdydd, ddedfryd o garchar am 18 mis yn Llys y Goron Casnewydd ar 26 Ionawr 2024.

Cafodd cyd-droseddwr, Dana Nadir Kadir, 38 oed o Pisgah Close, Tal-y-waun, ddedfryd o garchar am 18 wythnos wedi’i ohirio am 2 flynedd, yn ogystal â gorchymyn i wneud 100 awr o waith di-dâl, mynychu 6 diwrnod o ofynion gweithgaredd adsefydlu a thalu costau o £1,200 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Cafodd Arshad Ahmad Rashid, 46 oed o Cardiff Road, Caerffili, orchymyn i wneud 100 awr o waith di-dâl a thalu costau o £1,200 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Rhwng mis Ionawr 2018 a chanol 2019, cafodd busnes ei agor a'i weithredu o 65 Cardiff Road yng nghanol tref Caerffili.

Ymwelodd swyddogion o dîm Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili â’r siop ac atafaelu symiau bach o sigaréts a chynhyrchion tybaco ffug.

Ar yr wyneb, roedd y siop, a oedd yn cael ei hadnabod fel Caerphilly Market, yn eiddo i nifer o gwmnïau cyfyngedig, wedi'i sefydlu mae'n debyg i guddio'r gwerthiannau tybaco anghyfreithlon. Unwaith i'r tybaco gael ei atafaelu, symudodd y perchnogion ymddangosiadol ymlaen. Fe wnaeth y cwmni roi'r gorau i fasnachu ac fe wnaeth y safle gau am gyfnod byr nes bod cwmni newydd wedi'i sefydlu.

Ym mis Gorffennaf 2019, fe wnaeth y tîm Safonau Masnach ddarganfod bod Tawfik yn byw uwchben safle’r siop ac roedden nhw'n credu mai ef oedd yn gyfrifol am y busnesau oedd yn gweithredu yno.

Dros y 2 flynedd nesaf, parhaodd swyddogion i fonitro’r eiddo a darganfod bod 3 chwmni ar wahân wedi’u sefydlu a’u gweithredu yn gwerthu cynhyrchion tybaco ffug, gyda materion yn dod i uchafbwynt ym mis Mehefin 2021 pan wnaeth swyddogion safonau masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a thîm safonau masnach rhanbarthol gyrchu'r adeilad ac atafaelu dros 3,000 o sigaréts ffug a 3 cilogram o dybaco rholio â llaw ffug - y rhan fwyaf wedi'i guddio mewn cerbyd oedd wedi'i barcio ger y safle.

Ychydig cyn yr ymgyrch hon, cafodd Tawfik ei arestio gan swyddogion Heddlu Gwent ar amheuaeth o droseddau eraill anghysylltiedig ac, wrth chwilio'r siop, cafodd dros 30,000 o sigaréts ffug a 9 cilogram o dybaco rholio â llaw ffug gwerth tua £30,000 eu datgelu.

Datgelodd ymchwiliadau gan y tîm Safonau Masnach fod Tawfik wedi’i gael yn euog yn flaenorol o werthu cynhyrchion tybaco ffug, yn ogystal ag un o gyfarwyddwyr y cwmnïau (Kadir). Cafodd ei ddarganfod hefyd bod cyfarwyddwr arall, RASHID, wedi bod yn gysylltiedig â gwerthu sigaréts anghyfreithlon, er na chafodd ei erlyn erioed.

Cafodd y tri eu cyhuddo o dan Ddeddf Twyll 2006, ac er iddyn nhw wadu masnachu cynhyrchion tybaco ffug yn wreiddiol, fe blediodd y tri yn euog.

Dywedodd y Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet dros Gynllunio a Diogelu'r Cyhoedd,

Mae hwn yn ganlyniad gwych i Dîm Safonau Masnach y Cyngor ac mae’n adlewyrchu gwaith caled y swyddogion a fu’n rhan o gynnal yr ymchwiliad.

Dylai hyn fod yn rhybudd i eraill nad yw cyfarwyddwyr yn gallu cuddio y tu ôl i lenni corfforaethol cwmnïau cyfyngedig. Byddwn ni'n parhau i gosbi masnachwyr sy'n cyflenwi nwyddau anghyfreithlon a ffug ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Ffoniwch ein tîm Safonau Masnach ar 01443 811300 anfon e-bost at safonaumasnach@caerffili.gov.uk neu fynd i'n gwefan os ydych chi'n amau rhywun o werthu sigaréts, cynhyrchion tybaco neu fêps anghyfreithlon.

 



Ymholiadau'r Cyfryngau