News Centre

Adnewyddu'r cae 3G yng Nghanolfan Hamdden Trecelyn

Postiwyd ar : 07 Chw 2024

Adnewyddu'r cae 3G yng Nghanolfan Hamdden Trecelyn
Ddydd Llun, 12 Mawrth, bydd gwaith yn dechrau i adnewyddu a gwella'r cae 3G yng Nghanolfan Hamdden Trecelyn, ac mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau ddechrau mis Mai.
 
Y prosiect hwn yw’r buddsoddiad diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili fel rhan o’i Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol deng mlynedd i wella cyfleusterau ledled y Fwrdeistref Sirol.
 
Bydd y tîm yng Nghanolfan Hamdden Trecelyn yn gweithio gyda'r holl logwyr presennol a byddwn ni'n gwneud ein gorau glas i adleoli trefniadau presennol yn lleol i leihau unrhyw anghyfleustra.
 
Rydyn ni'n ymddiheuro am unrhyw aflonyddwch ac yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad wrth i ni ymdrechu i wella eich profiad yn ein cyfleusterau. Diolch am eich dealltwriaeth.


Ymholiadau'r Cyfryngau