News Centre

Cynlluniau i leihau halogi ailgylchu wrth ymyl y ffordd yn dechrau

Postiwyd ar : 20 Chw 2024

Cynlluniau i leihau halogi ailgylchu wrth ymyl y ffordd yn dechrau
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar genhadaeth i hybu cyfraddau ailgylchu, a'r wythnos hon, mae gwaith wedi dechrau i helpu gwella ansawdd y deunyddiau ailgylchadwy sy'n cael eu casglu wrth ymyl y ffordd. 

Mewn cyfarfod y Cabinet, a gafodd ei gynnal ddydd Mercher 18 Hydref, cytunodd yr Aelodau ar weithredu proses addysg ac ymgysylltu well sy'n cynnwys llythyrau, ymweliadau â chartrefi ac, mewn nifer fach o achosion, yr opsiwn i gyflwyno hysbysiad cyfreithiol i droseddwyr sy'n halogi ailgylchu wrth ymyl y ffordd yn gyson. 

Mae dull presennol y Fwrdeistref Sirol o gasglu deunydd ailgylchadwy wrth ymyl y ffordd yn cynnwys bin olwynion brown ar gyfer yr holl ddeunyddiau ailgylchu sych cymysg. Er bod y dull hwn yn arwain at gasglu tunelli ailgylchu sych sylweddol, mae natur y cynwysyddion wedi'u darparu yn golygu bod lleiafrif o drigolion yn rhoi gwastraff amhriodol yn eu biniau ailgylchu.

Ar hyn o bryd, mae lefelau uchel o halogi o fewn biniau ailgylchu brown y Fwrdeistref Sirol, ac nid oes modd i bron i chwarter o’r holl wastraff sy'n cael ei gasglu wrth ymyl y ffordd gael ei brosesu fel ailgylchu.

Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gyrraedd targedau ailgylchu llym Llywodraeth Cymru, ac mae Caerffili yn gweithio'n galed i sicrhau ei bod yn cyrraedd y targed 2024/25 o 70%, yn ogystal â’r cyfraddau uwch byth sydd wedi'u cyhoeddi ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Rydyn ni'n hapus o gyhoeddi bod ein proses newydd wedi dechrau, a fydd yn gwella ansawdd ein hailgylchu wrth ymyl y ffordd gan helpu mynd i’r afael â halogi.

“Nod y broses newydd hon yw helpu trigolion i ailgylchu’n gywir, gan ddarparu’r wybodaeth, y cyngor a’r canllawiau sydd eu hangen, gan sicrhau nad yw gwaith y trigolion hynny sy’n gwneud y peth iawn yn gyson yn mynd i wastraff.”

Rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n mynd yn eich bin: www.caerffili.gov.uk/beth-syn-mynd-yn-y-bin
 


Ymholiadau'r Cyfryngau