News Centre

Gwella'r ffordd mae pobl yn gwneud cais am dai cymdeithasol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 01 Chw 2024

Gwella'r ffordd mae pobl yn gwneud cais am dai cymdeithasol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio gyda phartneriaid cymdeithasau tai i adolygu ei Bolisi Dyrannu Cyffredin presennol, gyda'r nod o'i gwneud yn haws i bobl wneud cais am dai cymdeithasol gan hefyd yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng tai. 

Ers cyflwyno Cofrestr Tai Cyffredin Caerffili ym mis Rhagfyr 2016, mae nifer y bobl sy'n aros i gael cartrefi yn y sector cymdeithasol yn y Fwrdeistref Sirol wedi cynyddu bron i 160%. Mae cyflwyniadau digartrefedd a dyraniadau'r Cyngor i lety dros dro hefyd ar lefel ddigynsail ar hyn o bryd. 

Mae disgwyl i'r adolygiad gael ei gwblhau erbyn diwedd 2024 a bydd polisi newydd yn cael ei baratoi. Bydd y bobl hynny sy'n cael eu heffeithio gan gyflwyno polisi newydd yn cael y cyfle i roi eu barn i'r Cyngor yn ystod ymarfer ymgynghori, a fydd yn digwydd yn ystod yr haf. Bydd angen i’r Cyngor gytuno ar y polisi newydd cyn ei roi ar waith yn gynnar yn 2025. 

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Dai, “Mae mynediad at dai fforddiadwy o ansawdd da yn hanfodol i iechyd a lles pobl. Nod yr adolygiad hwn yw gwella taith y cwsmer drwy wneud y broses o wneud cais am dai cymdeithasol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn fwy syml, yn fwy tryloyw ac yn haws ei deall. Wrth wneud hynny, mae’n bwydo i mewn i ymdrechion ehangach y Cyngor i liniaru effaith yr argyfwng tai cenedlaethol.” 

Bydd y Cyngor yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am yr adolygiad wrth i'r prosiect ddatblygu.  

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am yr adolygiad, cysylltwch â CTG@caerffili.gov.uk neu ymweld â  www.homesearchcaerphilly.org
 
 


Ymholiadau'r Cyfryngau