News Centre

Cae Pêl-droed Fochriw I'w Ailenwi Er Anrhydedd Aelod Annwyl o'r Gymuned

Postiwyd ar : 20 Chw 2024

Cae Pêl-droed Fochriw I'w Ailenwi Er Anrhydedd Aelod Annwyl o'r Gymuned
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch o gyhoeddi bod y cae pêl-droed annwyl wedi’i ailenwi’n “Maes Coffa Glyn Davies” er mwyn talu teyrnged i’r diweddar Glyn Davies. Fel ffigwr canolog yn Fochriw, mae cyfraniadau sylweddol Glyn i'r byd pêl-droed lleol a mentrau elusennol wedi golygu bod lle parhaol ganddo yng nghalonnau'r trigolion. 
 
Fe wnaeth Glyn Davies, sy’n cael ei adnabod yn annwyl fel ‘Football Gaffa’ y pentref, ymroddi oriau di-ri i feithrin ymdeimlad o undod trwy ei angerdd dros y clwb pêl-droed lleol a’i ymdrechion elusennol. Mae ei gyfraniad at drefnu sioeau elusen "Stars in their Eyes" Clwb Cymdeithasol Fochriw yn dyst i'w ymrwymiad i ddyngarwch, gan godi symiau  o arian sylweddol at achosion ystyrlon dros y blynyddoedd. 
 
Mae’r penderfyniad i ailenwi’r cae pêl-droed yn deyrnged dwymgalon i Glyn Davies, sy’n symbol o ddiolchgarwch parhaol y gymuned am ei gyfraniadau. Bydd “Maes Coffa Glyn Davies” yn atgof parhaus o’i ddylanwad a’r effaith gadarnhaol a gafodd ar Fochriw.
 
Dywedodd y Cynghorydd Robert Chapman, “Fe wnaeth Glyn Davies ymgorffori ysbryd y gymuned trwy ei ymroddiad diwyro i bêl-droed lleol yn Fochriw a'i ymdrechion elusennol twymgalon. Mae ailenwi’r cae pêl-droed er cof amdano yn addas i ddyn y mae ei etifeddiaeth yn parhau i’n hysbrydoli a’n huno ni i gyd.”
 
Mae ailenwi’n gyfle i’r gymuned ddod at ei gilydd a myfyrio ar ddylanwad cadarnhaol Glyn ar Fochriw, sy'n dyst parhaol i gofio ei effaith ar y gymuned, yn symbol o werthoedd undod ac ysbryd cymunedol roedd Glyn yn eu hymgorffori mor angerddol. 


Ymholiadau'r Cyfryngau