News Centre

Gweithgareddau Hanner Tymor mis Chwefror

Postiwyd ar : 09 Chw 2024

Gweithgareddau Hanner Tymor mis Chwefror
Rydyn ni wrth ein bodd i gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau difyr i ddiddanu'r plant, a'u cadw nhw'n egnïol, yn ystod hanner tymor mis Chwefror. Anturiaethau yn y pwll nofio, gwersylloedd chwaraeon, a mwy – mae'r arlwy'n addo wythnos sy'n llawn chwerthin, dysgu a chyfeillgarwch i drigolion ifanc ein cymuned fywiog.

Gweithgareddau yn y pwll nofio

Ymunwch â ni ar ochr y pwll, wrth i ni gynnal gweithgareddau ar draws cyfleusterau Dull Byw Hamdden. Bydd ein hyfforddwyr yn arwain cyfres o weithgareddau yn y dŵr a hwyl ar ochr y pwll. Mae'n gyfle perffaith i blant ymdrwytho ym myd nofio a magu hyder yn y dŵr.

Mae Amserlen Nofio Hanner Tymor mis Chwefror ar gael yma: www.caerphillyleisurelifestyle.co.uk/cy/nofio-hanner-tymor-mis-chwefror

I gadw lle mewn gweithgareddau yn y pwll yn ystod hanner tymor, defnyddiwch ap Dull Byw Hamdden neu gysylltu â'r canolfannau hamdden yn uniongyrchol.

Gwersylloedd chwaraeon gan Chwaraeon Caerffili
Camwch i fyd chwaraeon gyda thîm Chwaraeon Caerffili. Yn ystod hanner tymor, byddwn ni'n cynnal gwersylloedd chwaraeon ar gyfer pêl-droed, hoci, a phêl-rwyd. Bydd ein hyfforddwyr medrus yn arwain plant i feithrin gwaith tîm, cydsymud, a chariad at weithgareddau corfforol. Drwy ganolbwyntio ar hwyl a meithrin sgiliau, mae'n gyfuniad buddugol ar gyfer hanner tymor egnïol a phleserus.

Gwersyll pêl-droed:
  • Dydd Llun 12 Chwefror i ddydd Gwener 16 Chwefror, 9am–3pm, Canolfan Hamdden Rhisga.
Am ragor o wybodaeth neu i gadw lle yn y gwersyll pêl-droed, ffoniwch 01443 863072 neu anfon e-bost i lewisd10@caerffili.gov.uk.

Gwersyll hoci:
  • Dydd Mawrth 13 Chwefror, 9am–3pm, Hwb Hoci Canolfan Hamdden Sue Noake.
Am ragor o wybodaeth neu i gadw lle yn y gwersyll hoci, ffoniwch 01443 815511 neu anfon e-bost i seaboc@caerffili.gov.uk.

Gwersyll pêl-rwyd:
  • Dydd Llun 12 Chwefror, 9am–3pm, Canolfan Hamdden Trecelyn.
  • Dydd Mawrth 13 Chwefror, 9am–3pm, Canolfan Hamdden Trecelyn.
  • Dydd Mercher 14 Chwefror, 9am–3pm, Canolfan Hamdden Cenydd Sant.
  • Dydd Iau 15 Chwefror, 9am–3pm, Canolfan Hamdden Sue Noake.
Am ragor o wybodaeth neu i gadw lle yn y gwersyll pêl-rwyd, ffoniwch 01443 563072 neu anfon e-bost i willi17@caerffili.gov.uk.

I gofrestru a chadw lle i'ch plentyn yn y gweithgareddau cyffrous hyn, defnyddiwch yr wybodaeth cadw lle sydd wedi'i darparu. Dewch i ni wneud hanner tymor mis Chwefror yn fythgofiadwy i'ch plentyn, gan greu atgofion parhaol sy'n llawn chwerthin, cyfeillgarwch, a hwyl egnïol yn y gymuned.


Ymholiadau'r Cyfryngau