News Centre

Gwasanaeth trên o Lynebwy i Gasnewydd yn dychwelyd ar ôl 60 mlynedd

Postiwyd ar : 01 Chw 2024

Gwasanaeth trên o Lynebwy i Gasnewydd yn dychwelyd ar ôl 60 mlynedd

Bydd gwasanaethau rheilffordd rheolaidd rhwng Glynebwy a Chasnewydd yn rhedeg am y tro cyntaf ers dros 60 mlynedd, diolch i fuddsoddiad o £70m gan Lywodraeth Cymru.

Ar ymweliad â gorsaf drenau Llanhiledd, lansiodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, y gwasanaeth newydd heddiw (ddydd Iau, 1 Chwefror).

O hyn ymlaen, bydd 30 o drenau y dydd yn rhedeg rhwng Casnewydd a Glynebwy diolch i fenthyciad gwerth £70m gan Lywodraeth Cymru i gyngor Blaenau Gwent i gynyddu seilwaith ar y lein.

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy’n gyfrifol am drafnidiaeth: “Rwy'n falch iawn bod y gwasanaeth rhwng Glynebwy a Chasnewydd ar waith o'r diwedd.  Mae wedi cymryd amser hir ac wedi gofyn am lawer o fuddsoddiad ond bydd dyblu amlder trenau yn gwneud gwahaniaeth i'r holl gymunedau ar hyd y leiin hon.  Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb fod Llywodraeth Cymru wedi camu i’r adwy gyda buddsoddiad.

“Ar adeg pan rydym wedi arfer â phrosiectau seilwaith mawr yn mynd dros amser a thu hwn i’r gyllideb, dylem ymfalchïo yn y ffaith fod y prosiect cymhleth hwn wedi'i gwblhau ar amser ac o fewn y gyllideb.  Diolch yn fawr iawn i gyngor Blaenau Gwent, Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru am gydweithio i wneud hyn yn bosibl.

“Nawr, gall pobl deithio'n uniongyrchol i Gasnewydd neu Gaerdydd bob awr, nid yn unig ar drac newydd ond ar drenau newydd hefyd."

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes hir o fuddsoddi mewn gwasanaethau rheilffyrdd ar reilffordd Glynebwy. Ailddechreuodd gwasanaethau i teithwyr nôl yn 2008 ar ôl cau yn 1962.  Ailagorwyd gorsafoedd yn Nhŷ-Du, Rhisga a Phontymister, Crosskeys, Y Bontnewydd, Llanhiledd a safle parcio a theithio newydd - Parcffordd Glynebwy.

Yn dilyn ei agor am y tro cyntaf yn 2008, bu'r twf o deithwyr yn fwy na'r disgwyl ac yn ystod 18 mis cyntaf y gwasanaethau newydd, teithiodd dros filiwn o bobl ar hyd y lein. 

Bydd teithwyr ar y lein yn gweld rhagor o welliannau’r gwanwyn hwn pan fydd Trafnidiaeth Cymru, fel rhan o fuddsoddiad o £800m gan Lywodraeth Cymru, yn dechrau rhedeg trenau newydd ar y lein.

Roedd y gwaith a lansiwyd heddiw hefyd yn cynnwys ymestyn y ddolen basio rhwng Crosskeys ac Aber-big ynghyd ac adeiladu platfform a lifftiau newydd yng ngorsafoedd y Bontnewydd a Llanhiledd.

Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol Trafnidiaeth Cymru fod y gwasanaethau newydd o ganlyniad i “gydweithio rhagorol” rhwng yr holl bartneriaid.

Dywedodd: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu lansio ein gwasanaethau newydd sbon rhwng Glynebwy a Chasnewydd yr wythnos hon.

“Bydd y gwasanaethau hyn yn newid pethau yn llwyr i bobl ar y lein, gan ddyblu nifer y trenau sy'n rhedeg pob awr a chreu amseroedd teithio byrrach i unrhyw un sy'n teithio i gyfeiriad Manceinion, Bryste neu Lundain.

“Yr hyn sydd wedi bod yn amlwg drwyddi draw yw'r cydweithio rhagorol rhwng y partneriaid a weithiodd ar y prosiect hwn ac awydd gwirioneddol i weld pen llanw ar y prosiect ar gyfer pobl de-ddwyrain Cymru.”

Dywedodd Nick Millington, Cyfarwyddwr Llwybrau Network Rail ar gyfer Cymru a'r Gororau: “Dyma newyddion gwych i deithwyr a chymunedau bod gwasanaethau newydd yn rhedeg ar reilffordd Glynebwy sydd wedi'i huwchraddio.

“Bydd y trawsnewid hwn yn creu cyfleodd am swyddi, hyfforddi a hamdden i bobl sy'n byw yn yr ardal a bydd yn annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gan gefnogi ein nodau datgarboneiddio yng Nghymru.

“Hoffwn hefyd ddiolch i deithwyr a chymunedau am eu hamynedd wrth i ni gwblhau'r uwchraddiad hwn ac atgoffa pobl, yn sgil cyflwyno gwasanaethau newydd, y dylent fod yn arbennig o ofalus ger croesfannau rheilffyrdd.”

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, yr Aelod Cabinet Lle ac Adfywio a Datblygu Economaidd yng Nghyngor Blaenau Gwent: "Rwy'n falch bod y gwasanaeth rheilffyrdd llawer gwell hwn bellach ar waith diolch i'r Cyngor yn gweithio ar y cyd â'n partneriaid yn Llywodraeth Cymru, Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru.  Mae gwella a darparu trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor.

Heb os, bydd gwasanaeth rheilffyrdd amlach yn gwella cyfleoedd ar gyfer mewnfuddsoddi, cyfleoedd gwaith yn yr ardal a’r tu allan iddi ac yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus i bawb ym Mlaenau Gwent.  Bydd y gwasanaeth rheilffordd uniongyrchol newydd i Gasnewydd hefyd yn ei gwneud yn haws i'r bobl hynny sydd am gysylltu â gwasanaethau eraill er mwyn teithio i gyrchfannau eraill ar gyfer hamdden a busnes."



Ymholiadau'r Cyfryngau