News Centre

Y Cyngor yn Falch o Fabwysiadu Siarter Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor

Postiwyd ar : 26 Chw 2024

Y Cyngor yn Falch o Fabwysiadu Siarter Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch o fabwysiadu Siarter Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor (MNDA).
 
Ym mis Chwefror 2023, fe wnaeth Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd Sean Morgan, a’r Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol, Eiddo a Phriffyrdd, gwrdd â Chyswllt Ymgyrch Siarter Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor i drafod pwysigrwydd ymwybyddiaeth o'r clefyd ac esbonio'r cymorth maen nhw'n ei roi i'r rhai sy'n byw gyda'r clefyd, eu gofalwyr a'u teuluoedd nhw.
 
Yn dilyn y cyfarfod cyntaf, cafodd Hysbysiad o Gynnig ei gyflwyno i Bwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol i’w ystyried ym mis Mai 2023 gan y Cynghorydd Nigel George. Cyflwynodd y Cynghorydd George y cynnig a chael y pwyllgor craffu i gefnogi argymell y cynnig i’r Cyngor ym mis Gorffennaf 2023, a gafodd ei gymeradwyo’n llwyddiannus yn ddiweddarach.
 
Ar 19 Chwefror 2024, roedd yr Arweinydd, y Cynghorydd Sean Morgan, a’r Cynghorydd Elaine Forehead, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, yn bresennol o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i lofnodi’r dystysgrif briodol i “Fabwysiadu Siarter MNDA”. Mae mabwysiadu’r siarter hon yn gam cadarnhaol i roi cymorth pellach i bobl sy’n byw gyda salwch erchyll clefyd niwronau motor.
 
Dywedodd y Cynghorydd Elaine Forehead, “Rydyn ni'n hynod falch o fod wedi mabwysiadu siarter MNDA ac rydw i'n edrych ymlaen at weithio gyda’r gymdeithas a’i chefnogi ymhellach i sicrhau bod cymorth parhaus yn cael ei ddarparu i’r rhai sy’n dioddef o glefyd niwronau motor.”
 
Mae’r Siarter yn ddatganiad o’r parch, y gofal a'r cymorth y mae pobl sy’n byw gyda chlefyd niwronau motor a’u gofalwyr yn eu haeddu ac y dylen nhw eu disgwyl.
 
Pum pwynt y Siarter yw:
 
  • Yr hawl i ddiagnosis cynnar a gwybodaeth.
  • Yr hawl i gael mynediad at ofal a thriniaethau o safon.
  • Yr hawl i gael eich trin fel unigolion a gydag urddas a pharch.
  • Yr hawl i wneud y gorau o'u hansawdd bywyd.
  • Mae gan ofalwyr pobl â chlefyd niwronau motor yr hawl i gael eu gwerthfawrogi, eu parchu, eu clywed a'u cynorthwyo'n dda. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.mndassociation.org/


Ymholiadau'r Cyfryngau