Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Chwefror 2024
Canol Tref Caerffili yn lansio Wi-Fi cyhoeddus am ddim
News Centre
Canol Tref Caerffili yn lansio Wi-Fi cyhoeddus am ddim
Postiwyd ar : 13 Chw 2024
Canol Tref Caerffili yw'r dref olaf i fanteisio ar fynediad cyhoeddus at Wi-Fi am ddim. Mae Wi-Fi yng Nghaerffili yn rhan o ddarpariaeth ehangach sydd eisoes wedi’i chyflwyno ym Margod, Coed Duon, Trecelyn, Rhymni, Rhisga ac Ystrad Mynach. Nod y fenter yw gwella profiad ymwelwyr â’r stryd fawr drwy helpu pobl i gael mynediad at siopau ar-lein ac ymgysylltu â busnesau lleol ar-lein.
Mae mynediad cyhoeddus at Wi-Fi am ddim eisoes wedi bod yn llwyddiant yn y chwe chanol tref arall ledled y Fwrdeistref Sirol gyda’r ddarpariaeth yn cyfrannu at gymorth parhaus y Cyngor i adfywio canol ein trefi.
Mae'r fenter yn rhan allweddol o'r ymgyrch Dewis Lleol sy'n ceisio annog trigolion i #DewisLleol ac archwilio pob un o'n canol trefi allweddol i ddiwallu anghenion ymwelwyr o ran siopa ac anghenion bob dydd. Gall trigolion gysylltu dyfeisiau mewn ardal eang yng nghanol y dref ac o'i chwmpas.
Mae'r Wi-Fi ar gael drwy'r rhwydwaith FreeCCBCWifi. Bydd y platfform yn gofyn i chi gofrestru eich manylion, cyn i chi fewngofnodi, ond dim ond unwaith y bydd angen i chi wneud hyn.
Meddai Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, “Mae cadw pobl mewn cysylltiad wrth ddefnyddio'r stryd fawr yn hwb enfawr i ganol ein trefi. Mae'r ddarpariaeth hon yn gyfle cyffrous arall i dynnu pobl yn ôl i ganol trefi lleol.
Mae mynediad cyhoeddus at Wi-Fi am ddim yn cynnig cyfleoedd i bobl sydd â band eang cyfyngedig neu ddim band eang o gwbl i gael mynediad at wasanaethau hanfodol ar-lein y cyngor lleol, y Llywodraeth a gwasanaethau iechyd. Bydd y gwasanaeth hefyd yn galluogi trigolion a busnesau lleol i ddefnyddio datrysiadau digidol i helpu gwella profiad cyffredinol ymwelwyr i bawb.”
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Rhybudd i drigolion Bargod am alwyr diwahoddiad yn cynnig ail-chwistrellu patios
Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon wedi’i hagor yn swyddogol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Teyrngedau i'r cyn Faer
Cwpl o Drelyn yn cael eu dedfrydu am droseddau lles anifeiliaid a bridio cŵn yn anghyfreithlon
Trawsnewid bywydau trwy brosiect Allweddi Caerffili
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y