News Centre

Cyngor Caerffili yn prynu eiddo i helpu mynd i'r afael â digartrefedd

Postiwyd ar : 28 Chw 2024

Cyngor Caerffili yn prynu eiddo i helpu mynd i'r afael â digartrefedd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi prynu eiddo preifat i ddarparu tai ar gyfer teuluoedd a fyddai, fel arall, yn eu cael eu hunain yn byw mewn llety dros dro.
 
Hyd yn hyn, mae'r Cyngor wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru, drwy'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro, i brynu ac adnewyddu 17 o gartrefi ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Mae'r cyllid, sy'n rhan o waith Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â digartrefedd, a'i atal, hefyd wedi cael ei ddefnyddio gan y Cyngor i foderneiddio 4 o'i eiddo ei hun ar gyfer yr un pwrpas.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Dai y Cyngor, “Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n ymgyflwyno i'r Cyngor fel pobl ddigartref ac, o ystyried yr argyfwng tai a chostau byw ar hyn o bryd, mae'r nifer yn debygol o dyfu. Mae hyn yn rhoi pwysau aruthrol ar lety dros dro ac adnoddau presennol.
 
“Rwy'n falch iawn bod y Cyngor yn prynu ac yn adnewyddu 17 o gartrefi ym Mwrdeistref Sirol Caerffili a fydd yn darparu llety addas y mae mawr ei angen ar gyfer y rhai sy'n wynebu digartrefedd. Mae'r Cyngor wedi darparu dros £1 miliwn o'i arian ei hun, ynghyd â £3 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru, i'n galluogi ni i brynu'r eiddo hyn.
 
“Rydyn ni'n gobeithio gallu cael cyllid eto yn y dyfodol i gaffael rhagor o gartrefi i helpu mynd i'r afael â digartrefedd.”


Ymholiadau'r Cyfryngau