News Centre

Pecyn cymorth Gofalu am Gaerffili ar gael i deuluoedd sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim

Postiwyd ar : 14 Chw 2024

Pecyn cymorth Gofalu am Gaerffili ar gael i deuluoedd sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim
Mae gwasanaeth Gofalu am Gaerffili yn cynnig mynediad i amrywiaeth eang o fentrau cymorth i unigolion a theuluoedd sy'n agored i niwed neu sydd mewn argyfwng ariannol.

Os oes angen cymorth arnoch chi neu unrhyw un rydych chi'n ei adnabod, mae modd gwneud y cyswllt cyntaf â thîm Gofalu am Gaerffili, sy'n darparu pwynt mynediad cydgysylltiedig i drigolion ar gyfer gwybodaeth, cyngor a chymorth.

Y prif fentrau sydd ar gael trwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y mae modd eu cyrchu trwy Gofalu am Gaerffili ac sy'n gallu cynnig cymorth cofleidiol i deuluoedd yn sgil dileu cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer taliadau prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau, yw'r canlynol:
 
  • Caledi Ariannol/Cynyddu Incwm: Mae'r tîm Budd-daliadau Lles a'r tîm Costau Byw o fewn yr adran Tai (Rhenti) yn gallu cynorthwyo trigolion gydag amrywiaeth eang o faterion yn ymwneud â chynyddu eu hincwm, gan gynnwys atgyfeiriadau posibl at gymorth/grantiau ariannol.
  • Grant Hanfodion Ysgol: Ar gael i ddisgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim, mae'r grant yn darparu arian i brynu gwisg ysgol, offer, dillad chwaraeon, ac offer ar gyfer gweithgareddau y tu allan i'r ysgol i blant.
  • Talebau Tanwydd: Gall trigolion sy’n cael trafferth gyda'r gost o ychwanegu at eu mesurydd rhagdalu fod yn gymwys i gael taleb tanwydd (mewn partneriaeth â Chyngor ar Bopeth a grwpiau lleol).
  • Banc Bwyd: Mae modd gwneud atgyfeiriadau ar unwaith, trwy Borth Gofalu am Gaerffili, i gynorthwyo rhywun sydd ag angen brys am fwyd a hanfodion eraill i'r cartref.
  • Tai a Digartrefedd: Mae'r tîm Cefnogi Pobl yn darparu cymorth a chyngor arbenigol i unrhyw un sy'n cael anawsterau gyda thai, gan gynnwys problemau gyda'u tenantiaeth neu risg o ddigartrefedd hyd yn oed.
  • Cymorth Cyflogaeth: Mae'r Tîm Cyflogaeth yn gallu helpu pobl i feithrin sgiliau newydd, cael mynediad at hyfforddiant a chynyddu’r siawns o gael swydd trwy gynorthwyo'r broses o ddatblygu CV, chwilio am swydd, sgiliau cyfweliad ac ati.
  • Cysylltwyr Cymunedol: Helpu pobl i deimlo'n rhan o'u cymuned trwy hybu lles, lleihau arwahanrwydd cymdeithasol a hybu annibyniaeth.
  • Cymorth Costau Byw arall – efallai y bydd tîm Gofalu am Gaerffili yn gallu helpu gydag amrywiaeth eang o faterion eraill sy’n ymwneud â’r argyfwng costau byw, gan gynnwys cyngor a grantiau ynni, cysylltiadau â Mannau Croesawgar lleol, cymorth gyda chadw'n gynnes a chymorth i'r rhai nad oes ganddyn nhw ffôn na data i gael mynediad at wasanaethau.  Cysylltwch â ni os ydych chi am drafod y materion hyn gyda ni.

Mae modd gwneud atgyfeiriadau at dîm Gofalu am Gaerffili drwy Borth Gofalu am Gaerffili. Defnyddiwch y manylion canlynol i gysylltu â ni:
Ffôn: 01443 811490 Neges destun: CYMORTH i 07537 414443
E-bost: GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk
Gwefan: www.caerffili.gov.uk/GofaluAmGaerffili


Ymholiadau'r Cyfryngau