News Centre

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn croesawu'r newyddion bod busnes technoleg diddanu o Gaerffili, Kinetic Pixel, wedi'i enwi'n un o'r 'Lleoedd Gorau i Weithio yn y Byd Teledu' gan gyfryngau blaenllaw’r diwydiant yn seremoni wobrwyo Broadcast

Postiwyd ar : 05 Chw 2024

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn croesawu'r newyddion bod busnes technoleg diddanu o Gaerffili, Kinetic Pixel, wedi'i enwi'n un o'r 'Lleoedd Gorau i Weithio yn y Byd Teledu' gan gyfryngau blaenllaw’r diwydiant yn seremoni wobrwyo Broadcast
Mae Kinetic Pixel yn fusnes annibynnol lleol sydd wedi gweithio ar y graffigwaith a thechnolegau ar gyfer nifer o sioeau teledu poblogaidd megis House of Games, Gladiators, The Masked Singer, The Wheel a Who Wants to be a Millionaire? i enwi dim ond rhai.

Ar hyn o bryd, mae'r busnes yn cyflogi 18 o bobl ac yn sicrhau bod eu gweithwyr talentog, gweithgar yn cael y manteision gorau fel rhan o'r swydd. Mae rhai o'r manteision mae gweithwyr Kinetic Pixel yn elwa arnyn nhw'n cynnwys gweithio hyblyg, system gwyliau heb ei chapio, prydau wedi'u hariannu, anrhegion ar gyfer dathliadau, gweithgareddau cymdeithasol, a mwy.

Mae gwaith tîm, amrywiaeth ac arloesedd yn rhan o werthoedd craidd Kinetic Pixel, ac mae bob amser gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol.

Y llynedd, roedd Cronfa Fenter Caerffili a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) wedi cynnig cymorth grant gwerth £2,938 i Kinetic Pixel. Roedd y cymorth hwn yn caniatáu i'r busnes wneud cais am gontractau hanfodol i greu rhagor o refeniw a sicrwydd swyddi yn yr hinsawdd bresennol.
 
Eleni, mae grant ychwanegol gwerth £2,000 wedi'i rhoi gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, yn ogystal â grant gwerth £2,000 drwy'r cynllun Grant Masnach Ryngwladol.
 
Ar ôl clywed y newyddion, dywedodd y Cynghorydd James Pritchard, "Rydyn ni wrth ein bodd i weld bod Kinetic Pixel wedi cael ei nodi fel un o'r lleoedd gorau i weithio yn y byd teledu. Fel Cyngor, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda'r cwmni i ddarparu ein cymorth, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau'r berthynas gadarnhaol honno ymhellach yn 2024".   
 
I ddarllen rhagor am Kinetic Pixel a'r cyllid maen nhw wedi ei gael, cliciwch yma.


Ymholiadau'r Cyfryngau