Ydych chi'n barod am Her y Baedd Gwyllt?
Postiwyd ar : 22 Chw 2024
Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad a Thirwedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Grŵp Antur Caerffili, Cerddwyr Caerffili, Cerddwyr Islwyn a phartneriaid eraill, unwaith eto yn gosod her DDIFRIFOL i gerddwyr a rhedwyr o bob gallu.
Yn dilyn llwyddiant Her yr Efail 2023, mae Her y Baedd Gwyllt yn parhau yng nghyffiniau syfrdanol Cwm Rhymni, gyda'i dirwedd heriol, cefn gwlad cyfoethog a golygfeydd godidog.
Fel sy'n arferol… bydd llwybrau Cyfres Heriau Caerffili yn addas i bob lefel ffitrwydd a gallu.
Dyma'r llwybrau:
- Llwybr 5 milltir (taith gerdded dan arweiniad) * Cofrestru ar y diwrnod
- Llwybr 10 milltir (taith gerdded dan arweiniad)
- Llwybr 15 milltir (her hunan-arwain a thaith gerdded dan arweiniad)
- Llwybr 22 filltir (her hunan-arwain a thaith gerdded dan arweiniad)
- Mae'r heriau hunan-arwain wedi'u cynllunio ar gyfer cerddwyr, loncwyr neu redwyr.
Dyma'r ffioedd cofrestru:
- Llwybr 22 filltir/15 milltir/10 milltir – £12
- Taith Gerdded Iach 5 milltir – £2
- Gostyngiad ychwanegol o £2 i bawb sy'n 18 oed neu'n iau.
- Os bydd eich cais yn cael ei dderbyn, ni fydd modd ad-dalu'r ffi.
- Ni fydd unrhyw gais yn cael ei dderbyn ar ôl 1 Mai 2024.
- Rhaid bod o leiaf 12 oed i gofrestru.
- Man dechrau a gorffen yr her eleni yw Ysgol Idris Davies.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer Cyfres Heriau Caerffili – Baedd Gwyllt – ewch i: https://www.caerphillychallengeseries.co.uk/cy/