News Centre

Preswylwyr tai lloches yn cael cymorth gyda chostau byw

Postiwyd ar : 14 Chw 2023

Preswylwyr tai lloches yn cael cymorth gyda chostau byw
Mae preswylwyr yn nhai lloches sy'n eiddo i gynllun tai lloches Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn derbyn cymorth a chyngor i'w helpu nhw gyda'r argyfwng costau byw.

Mae tîm ymroddedig wedi'i sefydlu gan y Cyngor wedi bod yn ymweld â chynlluniau gan gynnig cyfleoedd i breswylwyr gwrdd â staff i drafod unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw a dod i hyd i gymorth.
 
Yn y cynlluniau tai lloches sydd wedi cael ymweliad hyd yn hyn, mae'r tîm wedi helpu 16 o breswylwyr i hawlio'u taliad tanwydd gaeaf gwerth £200 a chwblhau dros 15 o wiriadau Credyd Pensiwn.  Yn ogystal â hyn, mae preswylwyr hefyd wedi derbyn cyngor ar filiau ynni a dŵr, gyda staff yn cysylltu â darparwyr ar eu rhan nhw pan fydd angen, ac archwilio budd-daliadau eraill efallai nad oedden nhw'n ymwybodol ohonynt.
 
Mae'r tîm hefyd wedi rhoi bylbiau golau sy'n arbed ynni i 250 o breswylwyr, gyda chyfanswm o bron 1500 o fylbiau'n cael eu rhoi.
 
Dywedodd un o'r preswylwyr a mynychodd sesiwn, "Roeddwn i'n credu bod gen i ormod o gynilion i fod yn gymwys ar gyfer Credyd Pensiwn, ond gwnaeth y tîm wirio hwn i fi a gadael i fi wybod fy mod i'n gymwys."
 
Ychwanegodd preswylydd arall, "Roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi hawlio'r taliad tanwydd gaeaf gwerth £200, ond roedd yr un hwn gyda'r Cyngor.  Dydw i ddim yn defnyddio'r rhyngrwyd ac mae gen i anawsterau clyw, felly, daeth y tîm allan i ymweld â fi yn fy nghartref."
 
Meddai'r Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Dai, "Mae hwn yn gyfnod arbennig o heriol i nifer o bobl ac rydyn ni'n deall ei bod yn gallu bod yn fwy pryderus byth i drigolion sy'n agored i niwed. 
 
"Mae'r fenter hon wedi cael gwared ar rwystrau gan alluogi preswylwyr i gael trafodaethau wyneb-yn-wyneb gyda staff gwybodus a phrofiadol, sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr."
 
Os oes gennych chi bryderon ynglŷn â'ch hun, ffrind neu aelod o'r teulu sydd mewn trafferth gyda'r costau byw cynyddol, cysylltwch â'r tîm gan alw 01443 811490, e-bostio GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk neu ewch i www.caerffili.gov.uk/cymorth-costau-byw
 


Ymholiadau'r Cyfryngau