Gweithredu diwydiannol mewn ysgolion – llythyr i rieni
Postiwyd ar : 28 Chw 2023
Annwyl Riant/Ofalwr,
Efallai eich bod chi'n ymwybodol o'r newyddion diweddar yn y cyfryngau y gallai rhai ysgolion ledled Cymru gael eu heffeithio ar ddyddiadau allweddol dros yr wythnosau nesaf oherwydd gweithredu diwydiannol sy’n ymwneud ag Undebau Llafur Addysg.
Mae disgwyl i aelodau’r Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) streicio ar y dyddiadau canlynol Dydd Iau 2 Mawrth.
Ar hyn o bryd, nid yw'n glir pa ysgolion o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili fydd ar gau ar y dyddiadau hyn. Mae angen i benaethiaid ysgolion gynnal asesiad risg manwl i ddeall yr effaith y bydd unrhyw weithredu diwydiannol yn ei gael ar y gallu i weithredu'r ysgol yn ddiogel gyda llai o staff.
Fel y gallwch werthfawrogi, dim ond os oes lefelau priodol o staff ar gael i sicrhau diogelwch a lles pob disgybl y gall ysgolion weithredu. Ar hyn o bryd, mae penaethiaid yn ceisio penderfynu nifer y staff a allai fod ar gael ar y dyddiadau hyn a bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud ar sail yr asesiadau hyn.
Cadwch lygad am ddiweddariadau a fydd yn cael eu hanfon drwy sianeli cyfathrebu arferol eich ysgol chi.
Diolch i chi am eich amynedd a'ch dealltwriaeth barhaus yn y mater hwn.
Cofion
Keri Cole
Prif Swyddog Addysg