News Centre

Cymerodd dros 7,000 o blant ran yn Haf o Hwyl 2022

Postiwyd ar : 28 Chw 2023

Cymerodd dros 7,000 o blant ran yn Haf o Hwyl 2022
Darparodd menter Haf o Hwyl, a gafodd ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, weithgareddau am ddim i blant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed yn Gymraeg ac yn Saesneg ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili. Yn 2022, roedd gweithgareddau am ddim yn cynnig cymorth i'n pobl ifanc a'n teuluoedd gyda chostau byw cynyddol. 
 
Cafodd dros dri chant o weithgareddau a sesiynau am ddim eu darparu yn ystod yr haf, lle daeth dros saith mil o blant, pobl ifanc a’u teuluoedd i gymryd rhan. 
 
Roedden ni'n cynnig amrywiaeth enfawr o weithgareddau am ddim, o weithgareddau chwarae ac adloniadol i weithgareddau chwaraeon a hamdden a gweithgareddau diwylliannol. Cymerodd ein pobl ifanc ran mewn rhwyf-fyrddio, gweithdai dylunio ffasiwn, tripiau undydd i’r teulu, gwersylloedd chwaraeon, sesiynau crefft, adrodd straeon, cerdded ceunentydd, gweithdai drwy gyfrwng y Gymraeg a llawer mwy.
 
Gweithion ni mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau i ddarparu Haf o Hwyl Caerffili. Roedd hyn yn cynnwys: Gwasanaeth Ieuenctid y Cyngor, Teuluoedd yn Gyntaf, Dull Byw Hamdden, Menter laith Sir Caerffili, Rhwydwaith Rhieni, Gwirfoddolwyr Rhisga, Chwaraeon Caerffili, The Parish Trust ac Urdd Gobaith Cymru.  

Haf o Hwyl Adroddiad 2022.pdf


Ymholiadau'r Cyfryngau