News Centre

Cais cynllunio amlinellol wedi cael ei gyflwyno am safle'r hen Aldi yn Rhymni

Postiwyd ar : 02 Chw 2023

Cais cynllunio amlinellol wedi cael ei gyflwyno am safle'r hen Aldi yn Rhymni
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyflwyno cais cynllunio amlinellol er mwyn adeiladu hyd at 23 o unedau preswyl ar safle'r hen Aldi yn Rhymni.

Cafodd y siop Aldi wag ei dymchwel yn 2014 ac mae'r tir, yn bennaf, wedi bod yn wag ers hynny, ar wahân i ddefnydd dros dro, megis canolfan Covid yn ystod y pandemig.

Mae cynlluniau wedi'u cyflwyno gan y Cyngor yn cynnwys amrywiaeth o dai o ran math, maint a deiliadaeth; gan gynnwys tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol. Mae'r cynlluniau, hefyd, yn sicrhau hygyrchedd cryf rhwng y datblygiad, canol tref Rhymni a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r cynigion hefyd yn cynnwys plannu ledled y safle, er mwyn gwella estheteg y datblygiad gan hefyd hybu bioamrywiaeth.

Meddai'r Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Mae'r rhain yn gynlluniau cyffrous i ddatblygu safle sydd â phwysigrwydd hanesyddol yn Rhymni, a gafodd ei ddatblygu'n wreiddiol fel rhan o Rhymney Brewery ym 1839 ac yn gysylltiedig â'r gwaith haearn lleol. Bu diffyg datblygu yng ngogledd y Fwrdeistref Sirol dros y blynyddoedd diwethaf, felly bydd hyn yn gyfle gwych i ddod â thai newydd o ansawdd uchel i Rymni.”

Am ragor o wybodaeth am y cais cynllunio, ewch.


Ymholiadau'r Cyfryngau