News Centre

Trawsnewid cynllun byw bywyd hŷn Trecelyn diolch i fuddsoddiad o £1.49m

Postiwyd ar : 01 Chw 2023

Trawsnewid cynllun byw bywyd hŷn Trecelyn diolch i fuddsoddiad o £1.49m
Mae Cwrt y Cae Uchaf yn Nhrecelyn wedi cael ei drawsnewid yn ddiweddar diolch i fuddsoddiad o £1.49 miliwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Cafodd gwelliannau helaeth eu gwneud yn y cynllun tai lloches er mwyn moderneiddio'r cyfleuster a sicrhau ei fod yn diwallu anghenion preswylwyr presennol a rhai'r dyfodol.

Roedd y gwaith yn cynnwys gosod ceginau, ystafelloedd gwlyb, gwifrau trydanol a systemau gwresogi newydd ym mhob un o'r 20 fflat yn y cyfleuster byw bywyd hŷn integredig.  Cafodd ardaloedd cymunedol ac allanol hefyd eu hadnewyddu.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Mae’r gwaith yng Nghwrt y Cae Uchaf yn rhan o raglen ehangach i ddatblygu llety byw bywyd hŷn modern, addas i’r diben ac sy’n diwallu anghenion preswylwyr presennol, gan apelio hefyd at y rhai nad ydyn nhw o bosib wedi ystyried y math hwn o gartref o'r blaen.

“Rwy’n deall bod preswylwyr Cwrt y Cae Uchaf yn gadarnhaol iawn am y gwaith ailwampio sydd wedi'i wneud yn rhan o'r cynllun ac yn mwynhau byw yn eu cartrefi sydd newydd gael eu hadnewyddu.”


Ymholiadau'r Cyfryngau