News Centre

Gwahoddiad i'r gymuned er mwyn darganfod rhagor am gynlluniau hen gartref gofal yn Rhisga

Postiwyd ar : 17 Chw 2023

Gwahoddiad i'r gymuned er mwyn darganfod rhagor am gynlluniau hen gartref gofal yn Rhisga
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnal sesiwn galw heibio er mwyn i aelodau'r gymuned ddarganfod rhagor am gynlluniau safle'r hen gartref gofal yn Rhisga.

Mae aelodau'r cyhoedd yn cael eu gwahodd i ddod i'r digwyddiad yn Llyfrgell Rhisga rhwng 2pm a 6pm ar ddydd Iau 23 Chwefror.  Bydd lluniaeth ar gael am ddim.

Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i'r gymuned edrych ar gynigion y Cyngor ar gyfer cynllun arloesol newydd ar gyfer byw bywyd hŷn ar y safle, cwrdd â'r tîm sy'n gyfrifol a gofyn unrhyw gwestiynau a allai fod ganddyn nhw.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Strategaeth a Datblygu Tai'r Cyngor ar StrategaethADatblygu@caerffili.gov.uk neu 01443 863121.


Ymholiadau'r Cyfryngau