News Centre

Cynghorwyr CBSC yn dathlu celf leol

Postiwyd ar : 06 Chw 2023

Cynghorwyr CBSC yn dathlu celf leol
Mae grŵp o Gynghorwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymweld â'r Tŷ Weindio, Tredegar Newydd, i weld arddangosfa gelf drawiadol.
 
Mae'r arddangosfa, Rhymni – Ein Cwm, yn cynnwys dros 80 o ddarnau trawiadol o waith, wedi’u cynhyrchu gan blant ysgol lleol, yn dathlu’r hyn maen nhw’n ei hoffi am eu bywydau a’r amgylchedd naturiol.
 
Cefnogwyd y prosiect gan Wasanaethau Celfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac Amgueddfa'r Tŷ Weindio.
 
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, Jamie Pritchard, “Roedd yn bleser ymweld â'r Tŷ Weindio yn Nhredegar Newydd i weld y cyfraniadau anhygoel y mae ein plant ysgol lleol ni wedi’u gwneud i’r arddangosfa gelf fwyaf newydd. Dyma un o’r arddangosfeydd anhygoel sydd gan y Tŷ Weindio, Tredegar Newydd, i’w gynnig ac mae'n ddiwrnod allan perffaith i’r teulu.”
 
Ychwanegodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, “Hoffwn i ddiolch i’r ysgolion lleol a’r disgyblion a helpodd i greu’r arddangosfa wych hon, ac i bawb yn y Tŷ Weindio, Tredegar Newydd, a Gwasanaethau Celfyddydau Caerffili am wneud yr arddangosfa hon yn bosibl.”
 
I gael rhagor o wybodaeth am y Tŷ Weindio, ewch i wefan y Tŷ Weindio, ffonio 01443 822666 neu anfon e-bost i TyWeindio@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau