News Centre

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2023

Postiwyd ar : 07 Chw 2023

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2023
Yn 2022, cafodd mwy na 20 o brentisiaid eu penodi gan y Cyngor, mewn amrywiaeth o rolau ledled amrywiol feysydd gwasanaeth y Cyngor. Roedd rhai o'r rolau hyn yn cynnwys prentisiaid gweinyddol, prentisiaid ceidwad cefn gwlad, prentis cyfathrebu, prentisiaid tiwtor dyfrol, a llawer mwy.

Mae Caerffili wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd mewn amrywiaeth o rolau yn y sefydliad, er mwyn i brentisiaid a chyflogeion gyflawni dilyniant yn eu gyrfaoedd. Mae gan Gaerffili hanes cyfoethog o ran meithrin prentisiaid sy'n symud ymlaen trwy rengoedd y sefydliad. 

Er mwyn dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2023, byddwn ni'n rhannu hanesion rhai o'n prentisiaid hyd yn hyn.

Meddai Rebecca Pitman, prentis cyfathrebu, "Roedd dechrau prentisiaeth gyda'r Cyngor yn gyfle arbennig o dda. Rydw i wedi dysgu cymaint gan fy mod i'n dysgu a gweithio ar yr un pryd. Ar hyn o bryd, rydw i'n gwneud cwrs fel rhan o'm prentisiaeth a fydd yn arwain at gyflawni cymhwyster mewn cyfathrebu digidol, rhywbeth a fydd yn helpu fi wrth symud ymlaen yn fy ngyrfa."

Meddai Nigel George, aelod cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol ac Eiddo, "Rydw i'n falch iawn o weld bod ein cynllun prentisiaid ni yn fudd i nifer o bobl ac ein bod ni'n atgyfnerthu ein hymrwymiad ni i roi cyfleoedd i bobl ifanc i ddechrau gyrfa, yn ogystal â dangos bod gwneud prentisiaeth yn llwybr gwych i gyflogaeth sy'n talu'n dda."    


Ymholiadau'r Cyfryngau