News Centre

Dull o fynd i'r afael â chartrefi preifat gwag ym Mwrdeistref Sirol Caerffili wedi'i gymeradwyo

Postiwyd ar : 03 Chw 2023

Dull o fynd i'r afael â chartrefi preifat gwag ym Mwrdeistref Sirol Caerffili wedi'i gymeradwyo
Mae Strategaeth Cartrefi Gwag y Sector Preifat 2023-2028 yn nodi cynlluniau'r Cyngor i fynd i'r afael â'r nifer uchel o gartrefi gwag yn y Fwrdeistref Sirol. Mae hefyd yn nodi'r amrywiaeth o fentrau sydd ar gael i'r Cyngor i helpu perchnogion i sicrhau bod eu cartrefi gwag yn cael eu defnyddio eto.
 
Cafodd ymarfer ymgynghori cyhoeddus, 6 wythnos o hyd, ei gynnal lle roedd gofyn i i'r trigolion roi eu barn ar y cynigion yn y strategaeth ddrafft. O'r rhai a ymatebodd, cytunodd 92% y dylai sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio eto fod yn flaenoriaeth.
 
Meddai'r Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Diolch i bawb a dreuliodd amser yn rhoi eu barn fel rhan o'r ymgynghoriad; mae'r adborth hwn yn hanfodol wrth ein helpu ni i lywio ein dull o fynd i'r afael â'r mater hwn.
 
“Rydyn ni'n deall bod cartrefi gwag hirdymor yn effeithio nid dim ond ar estheteg cymunedau lleol, ond hefyd yn gallu denu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rydyn ni yng nghanol argyfwng tai cenedlaethol ac mae sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio'n fuddiol yn hanfodol i ddiwallu'r angen.”
 
Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried y strategaeth ddrafft ym mis Mawrth. Mae copi o'r drafft ar gael yma.
 
I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i berchnogion eiddo gwag, cysylltwch â thîm pwrpasol y Cyngor ar 01443 811378 neu TaiSectorPreifat@caerffili.gov.uk

 


Ymholiadau'r Cyfryngau