News Centre

Gwelliannau i'r A469 yn cael cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru

Postiwyd ar : 15 Chw 2023

Gwelliannau i'r A469 yn cael cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru
A469 rhwng Tredegar Newydd a Phontlotyn.

Mae Arweinydd Cyngor Caerffili wedi croesawu’r newyddion bod Llywodraeth Cymru wedi datgan ei chefnogaeth i welliannau er mwyn mynd i’r afael â phroblemau hirsefydlog gyda’r A469 rhwng Tredegar Newydd a Phontlotyn.

Mae'r ffordd yn Nhroedrhiw'r-fuwch wedi'i heffeithio gan symudiad tir sylweddol yn dilyn tirlithriad cychwynnol yn ôl yn 2014. Ers 2020, mae cyfyngiadau traffig un lôn wedi bod yn eu lle, gan achosi aflonyddwch ac anghyfleustra i'r gymuned leol.

Mae’r Cyngor wedi bod yn lobïo Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf ac mae adroddiad a gafodd ei gyhoeddi yr wythnos hon (14/2/23) o’r enw ‘Dyfodol Buddsoddi mewn Ffyrdd Cymru’ yn argymell cychwyn ar gynllun gwella’r A469. 

Croesawodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, y newyddion, “Mae hwn yn gam ymlaen cadarnhaol iawn ac rwy’n siŵr y bydd trigolion Cwm Rhymni Uchaf yn ymuno â mi i ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth i helpu mynd i’r afael â’r mater hirsefydlog hwn.

“Byddwn ni nawr yn ceisio eglurder gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r cyllid sydd ar gael i’n galluogi ni i fynd â'r prosiect hwn y mae mawr ei angen yn ei flaen.”

Mae problemau gyda symudiad tir yn parhau i achosi problemau i gyfanrwydd wyneb y ffordd, er nad oes risg ar fin digwydd i ddefnyddwyr priffyrdd.

O ran y gwaith adeiladu, bydd angen contractwr arbenigol sydd ag arbenigedd a phrofiad addas yn y maes hwn.

O ganlyniad, bydd y signalau traffig yn aros yn eu lle am beth amser eto a bydd y safle yn destun monitro parhaus i sicrhau bod y ffordd yn parhau i fod yn ddiogel i ddefnyddwyr y briffordd.

"Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried adroddiad maes o law ynghylch cyllid ac amserlenni a byddwn ni'n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned. Hoffwn i sicrhau pawb bod y gwaith hwn yn flaenoriaeth allweddol ac y caiff ei symud ymlaen yn gyflym,” ychwanegodd y Cynghorydd Morgan. 



Ymholiadau'r Cyfryngau