News Centre

Cynghorau BALCH

Postiwyd ar : 01 Chw 2022

Cynghorau BALCH
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn aelod gweithgar o bartneriaeth Cynghorau Balch, sy'n dod â sawl cyngor yn Ne Cymru at ei gilydd mewn ffordd weladwy ac unedig, i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb i gymunedau LHDT+.
 
Pwrpas Cynghorau Balch yw gwella’r gefnogaeth a gynigir i staff LHDT+ mewn awdurdodau lleol yng Nghymru a sicrhau bod llywodraeth leol ledled Cymru yn arweinydd gweladwy ym maes hawliau LHDT+ ac yn hyrwyddo cynhwysiant LHDT+ yn ein cymunedau.
 
Eleni mae Cynghorau Balch yn uno i hyrwyddo Mis Hanes LHDT+ a fydd yn digwydd trwy fis Chwefror.
 
Mis Hanes LHDT+
 
Mae Mis Hanes LHDT+ yn ddathliad blynyddol o fis o hyd o hanes lesbiaidd, hoyw, deurywiol traws, ac anneuaidd, gan gynnwys hanes hawliau LHDT+ a mudiadau hawliau sifil cysylltiedig.  Mae Mis Hanes LHDT yn darparu modelau rôl, yn adeiladu cymuned, ac yn cynrychioli datganiad hawliau sifil am gyfraniadau'r gymuned LHDT+.
 
Mae Mis Hanes LHDT+ yn cael ei ddathlu bob mis Chwefror yn y DU, i gyd-fynd â diddymu Adran 28 yn 2003.  Cychwynnwyd Mis Hanes LHDT+ yn y DU gan Schools Out UK ac fe'i cynhaliwyd am y tro cyntaf ym mis Chwefror 2005 gyda'r bwriad o godi ymwybyddiaeth o, a brwydro. rhagfarn yn erbyn, pobl LHDT a hanes.
 
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Hyrwyddwr Cydraddoldeb, “Mae codi'r faner y tu allan i'n swyddfeydd yn Nhŷ Penallta yn ffordd o roi gwybod i'n trigolion, â'n holl galon, ein bod ni wedi ymrwymo i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant i bawb.”


Ymholiadau'r Cyfryngau