Groes-Faen Terrace, Bargoed update – 03/02/2022
Postiwyd ar : 03 Chw 2022
Ar hyd Groes-faen Terrace.
Mae contractwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn bwriadu gwneud mân waith atgyweirio i'r ffordd gerbydau ar hyd Groes-faen Terrace.
Mae'r gwaith hwn ar gyfer adfer mân ddiffygion o ganlyniad i'r gwaith diweddar ar gwlfertau yn yr ardal.
Yfory, bydd un lôn ar gau gyda goleuadau traffig dwyffordd ar waith rhwng 8.00am a 4.00pm ar hyd Groes-faen Terrace. Bydd y mesurau rheoli traffig ar waith am un diwrnod yn unig (04/02/2022).
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.