Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Chwefror 2022
Newid i nifer y galarwyr yn Amlosgfa Gwent: Datganiad FfLlCG Gwent
News Centre
Newid i nifer y galarwyr yn Amlosgfa Gwent: Datganiad FfLlCG Gwent
Postiwyd ar : 04 Chw 2022
Gyda chyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod Cymru wedi symud yn llawn i Lefel Rhybudd Sero, mae nifer y galarwyr all fynd i angladdau yng Nghapel Amlosgfa Gwent, Croesyceiliog, wedi cynyddu.
Gall hyd at 120 o bobl fynd i Gapel Amlosgfa Gwent erbyn hyn.
Nid oes cyfyngiad ar nifer y galarwyr all fynd i angladd mewn mynwent.
Bydd trefnwyr angladdau yn gallu rhoi cyngor ar y niferoedd a ganiateir ar gyfer lleoliad angladdau neu wasanaethau coffa.
Gwneir pob penderfyniad ar nifer y galarwyr a ganiateir yn dilyn adolygiad o asesiadau risg a bydd yn ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys y canllawiau a'r rheolau yn unol â lefelau rhybudd Llywodraeth Cymru.
Er gwaethaf llacio'r cyfyngiadau a symud i lefel rhybudd sero, mae achosion mewn cymunedau yn parhau'n uchel iawn ac mae COVID-19 yn dal i ledaenu'n lleol. Felly, mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae o hyd wrth gymryd camau rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a'i ledaenu.
Cydnabyddir yn llawn mor anodd a gofidus y gall y cyfnod hwn fod, a bod cefnogaeth a chysur teulu a ffrindiau mor bwysig. Fodd bynnag, rydym yn annog galarwyr i ystyried y risg wirioneddol o ledaenu ymhellach mewn achlysuron o'r fath a chyfyngu ar y risgiau hynny lle bynnag y bo modd.
Mae mesurau rhesymol yn cynnwys:
Dim ond unigolion sy’n cael eu gwahodd yn benodol gan drefnydd yr angladd all fynd i’r angladd fel galarwr o hyd, ynghyd â gofalwr unrhyw un sy’n mynychu.
Parhau i gadw at fesurau hylendid. Mae golchi dwylo'n aml a defnyddio hylif diheintio dwylo yn bwysig o hyd, yn ogystal ag osgoi cyffwrdd eich trwyn a’ch ceg â dwylo heb eu golchi.
Lle bo'n bosibl, dylid cyfyngu ar ddod i gysylltiad corfforol agos.
Dylid cadw at ofyniad presennol Llywodraeth Cymru i hunanynysu os oes gennych brawf COVID-19 positif, ac eithrio am resymau tosturiol megis mynychu angladd aelod o'r teulu neu ffrind agos.
Cymerwch brawf llif ochrol cyn mynychu angladdau a defnyddiwch app COVID-19 y GIG i gofrestru i’r lleoliad.
Mae'n ofynnol i'r rhai sy'n mynychu angladd wisgo gorchudd wyneb drwy gydol y seremoni tra’u bod mewn man cyhoeddus dan do, megis capel yr amlosgfa, ac eithrio unigolion sydd ag esgus rhesymol, megis:
Rai nad ydynt yn gallu gwisgo gorchudd wyneb oherwydd salwch corfforol neu feddwl, neu oherwydd anabledd neu nam.
Maent yn hebrwng rhywun sy'n dibynnu ar ddarllen gwefusau i gyfathrebu.
Ni chaniateir canu cynulleidfaol.
Rhaid i bawb sy'n bresennol yng Nghapel Amlosgfa Gwent fod yn eistedd.
Nid ar chwarae bach y gwneir yr holl benderfyniadau ynghylch nifer y galarwyr a ganiateir mewn angladdau. Mae parch i'r ymadawedig a thosturi at y rhai sydd wedi cael profedigaeth yn rhan bwysig o benderfyniadau, ond rhaid i ddiogelu iechyd a lles y cyhoedd, staff angladdau, claddu a’r Amlosgfa fod yn brif flaenoriaeth yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus parhaus hwn.
Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Gwent.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili poblogaidd yn denu miloedd o ymwelwyr i'r dref
Cyhoeddi cau ffyrdd ar gyfer digwyddiad 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows
Grant CBS Caerffili yn helpu busnes Caerffili i ehangu
Dros 120 o wirfoddolwyr wedi plannu coed yng Nghoetiroedd Wyllie a Pharc Cwm Darran
Rhybudd i drigolion Bargod am alwyr diwahoddiad yn cynnig ail-chwistrellu patios
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y