News Centre

Cyngor yn ffonio trigolion sy'n gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf

Postiwyd ar : 08 Chw 2022

Cyngor yn ffonio trigolion sy'n gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf
Ar hyn o bryd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ffonio trigolion sy'n gymwys i gael taliad o dan Gynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf Llywodraeth Cymru.

Mae Tîm Rhenti’r Cyngor yn ceisio ffonio’r holl drigolion cymwys a’u helpu nhw i lenwi eu cais nhw dros y ffôn.  Gall galwadau gan y tîm ymddangos fel rhif preifat ac, felly, mae'r Cyngor yn annog trigolion i ateb.

Yn ystod yr alwad, bydd gofyn i drigolion ddarparu eu manylion banc nhw oherwydd, heb y wybodaeth hon, ni fydd yn bosibl cyflwyno hawliad.  Os nad oes gan ymgeiswyr gyfrif banc, rydych chi'n gallu defnyddio perthynas neu ffrind dibynadwy.

Os ydych chi'n ansicr ynghylch pwy yw'r galwr, ni ddylech chi rannu unrhyw wybodaeth bersonol. Gofynnwch am enw'r swyddog a chysylltu â'r Cyngor ar 01443 811450 neu drwy anfon e-bost at SwyddfaCymorthTenantiaeth@caerffili.gov.uk i gadarnhau a yw'r alwad yn ddilys.

Drwy'r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf, gall aelwydydd cymwys hawlio taliad untro o £200 i ddarparu cymorth tuag at dalu eu biliau tanwydd gaeaf.  Mae’r cynllun yn agored i aelwydydd lle mae un aelod yn cael budd-daliadau oedran gweithio sy’n seiliedig ar brawf modd ar unrhyw adeg rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022.

Rhaid gwneud pob cais erbyn 28 Chwefror 2022.

Gall trigolion ym Mwrdeistref Sirol Caerffili hefyd weld a ydyn nhw'n gymwys a gwneud cais ar-lein drwy fynd.


Ymholiadau'r Cyfryngau