News Centre

Ysgolion Caerffili yn dylunio cerfluniau Snoopy er budd Dogs Trust

Postiwyd ar : 02 Chw 2022

Ysgolion Caerffili yn dylunio cerfluniau Snoopy er budd Dogs Trust
Mae nifer o ysgolion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn dylunio eu cerfluniau Snoopy eu hunain fel rhan o ‘A Dog’s Trail’ er budd Dogs Trust.
 
Mae A Dog’s Trail yn ddigwyddiad arbennig a fydd yn hybu iechyd a lles, yn dod â busnesau a chymunedau ynghyd ac yn helpu hybu’r economi ranbarthol. Nod y llwybr yw codi arian sylweddol ar gyfer Dogs Trust fel y gallan nhw barhau i ddarparu eu gwasanaethau nhw i’r rhai sydd eu hangen fwyaf. Mae'r digwyddiad yn cael ei gyflwyno gan Dogs Trust mewn partneriaeth â Wild in Art.
 
Cynigiodd Dogs Trust raglen ddysgu i ysgolion a sefydliadau ieuenctid yn ardaloedd Caerdydd, Caerffili a Phen-y-bont ar Ogwr, gan annog disgyblion i gymryd rhan drwy fabwysiadu a dylunio eu cerfluniau Snoopy eu hunain. Bydd y cerfluniau ‘pawsome’ yn cael eu harddangos y tu mewn i leoliadau ar draws yr ardaloedd, i’w mwynhau gan eu crewyr a’r cyhoedd yn gyffredinol.
 
Wedi’u sbarduno gan eu cariad at anifeiliaid, yn enwedig cŵn, roedd Ysgol Gynradd Bryn Awel ac Ysgol Gynradd Fochriw wrth eu bodd yn cymryd rhan yn y prosiect. Ym mhob ysgol, mae’r prosiect yn cael ei arwain gan y disgyblion creadigol mentrus, Cyngor yr Ysgol yn Ysgol Gynradd Bryn Awel a Phwyllgor Eco Ysgol Gynradd Fochriw.
 
Gan gymryd cyfrifoldeb drwy dderbyn ‘Her Snoopy’, rhannodd y disgyblion wybodaeth gan lansio cystadleuaeth ysgol gyfan i ddylunio cerfluniau Snoopy. Derbyniodd y grwpiau llais y disgyblion lawer o geisiadau ‘snooptastig’ ar draws yr ysgol a oedd yn gyfle gwych i ddisgyblion weithio gyda’u teuluoedd nhw a hyrwyddo’r prosiect. Barnodd Cyngor yr Ysgol a'r Pwyllgor Eco y dyluniadau yn y drefn honno, a dechreuodd y disgyblion weithio ar eu campweithiau nhw gydag aelod o staff yn arwain y broses.
 
Wrth weithio ar y dyluniadau, daeth y disgyblion yn hoff o ‘eu Snoopy nhw’ ac roedden nhw am nodi unigrywiaeth y cerflun drwy ei enwi. Yn Ysgol Gynradd Bryn Awel, dewisodd Cyngor yr Ysgol ‘Dewi'r Ci Amrywiaeth’ i ddathlu stori’r cerflun o gydraddoldeb, amrywiaeth a derbynioldeb.
 
“Yn ystod y pandemig, rydyn ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig dod â llawenydd a hapusrwydd i bawb drwy liwiau a phositifrwydd a dathlu amrywiaeth.” – Cyngor yr Ysgol, Ysgol Gynradd Bryn Awel 2022.
 
Yn Ysgol Gynradd Fochriw, seiliodd y Pwyllgor Eco eu cynllun ar nifer o geisiadau o oedd yn dangos balchder yn yr ardal leol. Aethon nhw ar drywydd y thema hon ymhellach ar ôl cael eu hysbrydoli drwy blannu coed yn ystod tymor yr hydref ym Mharc Cwm Darran. Fel unig ysgol wledig Caerffili, mae’r cerflun yn cwmpasu harddwch Cwm Darran, lleoliad yr ysgol.

“Byddwch yn barchus ac yn gyfrifol a mwynhau'r ardal rydych chi'n byw ynddi er mwyn iddi fod yn brydferth i bobl ac anifeiliaid nawr ac yn y dyfodol.”– Pwyllgor Eco Ysgol Gynradd Fochriw 2022
 
Dywedodd Sharon Pascoe, Pennaeth Ysgol Gynradd Bryn Awel ac Ysgol Gynradd Fochriw, “Mae’r prosiect yn gyfle hudolus i ddathlu dyfeisgarwch y ddwy ysgol sy’n cael ei yrru gan ein disgyblion creadigol a mentrus ni wrth gefnogi achos da. Mae’n anrhydedd cael ein cerfluniau Snoopy ni, ‘Dewi’r Ci Amrywiaeth’ a ‘Darran Ci Cwm Darran’, wedi’u harddangos yn A Dog’s Trail i gynulleidfa ehangach eu mwynhau nhw fel gwnaethon ni!”
 
Dywedodd y Cynghorydd Ross Whiting, Aelod Cabinet dros Ddysgu, “Rydw i wrth fy modd bod y disgyblion yn cael cymaint o hwyl yn dylunio eu cerfluniau Snoopy nhw. Mae eu cyfraniadau yn helpu achos gwych ac ni allaf i aros i weld y cerfluniau sy’n cael eu harddangos yn A Dog’s Trail.” 


Ymholiadau'r Cyfryngau