News Centre

Cwpl o Gaerffili yn cael dirwy am fridio cŵn heb drwydded

Postiwyd ar : 07 Chw 2022

Cwpl o Gaerffili yn cael dirwy am fridio cŵn heb drwydded
Mae cwpl o Gaerffili wedi cael dirwy am fridio cŵn, heb drwydded gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014, yn groes i Adran 13(1) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.
 
Cafodd Callum Pine a Megan Arundel o 5 Kingsley Place, Senghenydd, Caerffili, eu cosbau Band D yn Llys Ynadon Casnewydd ar Ionawr 13, 2022.

Cafodd Pine ddirwy o £615, gordal o £61 a chostau erlyn o£1,000 (cyfanswm o £1,676). Cafodd Arundel ddirwy o £200, gordal o £34 a chostau erlyn o £1,000 (cyfanswm o £1,234).

Mae'r cwpl wedi bod yn bridio ac yn gwerthu cŵn bach o bryd i'w gilydd dros y blynyddoedd ond cynyddodd y nifer yn ddramatig yn ystod y pandemig. Mae tystiolaeth yn dangos bod Pine ac Arundel, rhwng 30 Mawrth 2020 a 30 Mawrth 2021, yn berchen ar 8 gast fridio gan fridio 7 torllwyth o 6 gast.
 
Wedyn, hysbysebodd y cwpl y cŵn bach drwy lwyfannau gwerthu ar-lein a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, yn bennaf ar Facebook ac Instagram.
 
Roedd maint y gweithgaredd bridio gan y cwpl yn uchel iawn am gyfnod mor fyr. Fodd bynnag, nid yw cyfanswm llawn enillion y cwpl yn hysbys; yn ôl amcangyfrif, cyfanswm y pris am y cŵn bach wedi'u hysbysebu rhwng Ionawr 2020 ac Ebrill 2021 oedd oddeutu £50,000.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet dros Ddiogelwch y Cyhoedd, “Mae nifer y bridwyr cŵn y dirwyon i'r ddau ddiffynnydd wedi cynyddu’n aruthrol dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn y Fwrdeistref Sirol. Rydyn ni'n falch o ganlyniad y dirwyon i'r ddau ddiffynnydd ac yn gobeithio y bydd yn rhybudd i droseddwyr eraill sy'n ystyried cymryd mantais ar anifeiliaid i wneud elw ariannol.

“Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth am fridwyr y dirwyon i'r ddau ddiffynnydd posibl, cysylltwch â'r timau Safonau Masnach neu Drwyddedu.” 

SafonauMasnach@caerffili.gov.uk / Trwyddedu@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau