News Centre

Buddsoddiad mawr Cyngor Caerffili i Greu Cymunedau Gofalgar

Postiwyd ar : 07 Chw 2022

Buddsoddiad mawr Cyngor Caerffili i Greu Cymunedau Gofalgar
Dros y 4 blynedd diwethaf, mae Cyngor Caerffili wedi buddsoddi cryn dipyn mewn cyfleusterau a gwasanaethau i sicrhau y gall greu diwylliant gofalgar ar gyfer cymunedau.
 
Hyd yn hyn gwariwyd £500m ar brosiectau Llunio Lleoedd, a buddsoddwyd cryn dipyn mewn gwasanaethau i drigolion hŷn a'r rhai a ystyrir yn agored i niwed, sydd wedi darparu cyfleusterau gwell ac wedi'u huwchraddio ar eu cyfer er mwyn eu galluogi i gael gofal o'r radd flaenaf.

Enghraifft wych o hyn yw'r £500,000 a fuddsoddwyd i wella safonau ein 6 chartref gofal mewn lleoliadau allweddol ar hyd a lled y fwrdeistref sirol. Mewn canolfannau gosodwyd podiau ymweld pwrpasol, aed ati i wella ystafelloedd a chyfleusterau ymolchi, trefnwyd bod y rhyngrwyd yn cael ei uwchraddio, a gwnaed gwelliannau y tu allan.
 
Gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i greu amgylchedd glanach, mae ansawdd aer wedi gwella'n sylweddol yn Hafod-yr-ynys. Cafodd y 23 o gartrefi ar hyd y brif ffordd eu prynu am 150% o'u gwerth ar y farchnad er mwyn cynorthwyo'r trigolion i symud, a bwriedir dymchwel yr eiddo er mwyn ceisio gostwng lefelau nitrogen deuocsid.
 
Hefyd rydym wedi gwella'r gwasanaethau rydym yn eu cynnig i blant sy'n derbyn gofal drwy brynu ac adnewyddu adeilad a fodolai eisoes er mwyn creu cyfleuster o'r radd flaenaf ym Margoed; mae nawr yn gartref i Dîm Maethu Therapiwtig MYST. Gan weithio gyda'n partneriaid yn Llywodraeth Cymru buddsoddwyd dros £1 filiwn yn y cynllun hwn sy'n cynorthwyo plant ag anghenion cymhleth i gael gofal a ffynnu ar yr aelwyd.
 
“Mae'r buddsoddiadau hyn yn rhoi cipolwg ar yr holl waith sydd wedi cael ei wneud ledled y sir, meddai'r Cynghorydd Shayne Cook, Aelod y Cabinet dros Ofal Cymdeithasol a Thai, “Rydym yn benderfynol o gefnogi pawb, gan ganolbwyntio'n arbennig ar y rhai ag anghenion mwy cymhleth a'n trigolion hynaf. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i achub ar gyfleoedd newydd i wella a datblygu ein gwasanaethau gan sicrhau eu bod yn addas at y diben yn y dyfodol.”

Ychwanegodd, “Mae ein buddsoddiadau sydd yn mynd rhagddynt ac sydd yn yr arfaeth yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ac rydym yn gwbl ymrwymedig i Greu Cymunedau Gofalgar.”
 
Bydd gofyn i breswylwyr chwarae rhan hollbwysig wrth helpu i lunio'r cynigion, drwy ddynodi beth sydd ar goll er mwyn sicrhau bod y cyngor yn targedu ei fuddsoddiad lle mae'r angen mwyaf. Bydd manylion am ffyrdd i'r gymuned gymryd rhan yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol agos.
 
Am ragor o wybodaeth am y buddsoddiad yn eich ardal chi, ewch i www.caerphillyplaceshaping.co.uk/cy/


Ymholiadau'r Cyfryngau