News Centre

​Datganiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar achosion o amrywiolyn Omicron o'r Coronafeirws yng Nghymru

Postiwyd ar : 15 Rhag 2021

​Datganiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar achosion o amrywiolyn Omicron o'r Coronafeirws yng Nghymru

Meddai Dr Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

"Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (dydd Mercher 15 Rhagfyr) yn cadarnhau tri deg achos newydd o amrywiad Omicron yng Nghymru. Daw hyn â ni at gyfanswm o chwech deg dau achos.

"Mae rhan o’r cynnydd heddiw yn gysylltiedig â newid yn y diffiniad achos a cytunwyd arno ledled y DU, gan fod achosion a nodwyd yn flaenorol yn debygol iawn bellach yn cael eu dosbarthu fel rhai a gadarnhawyd gan genoteipio. Fodd bynnag, fel yr ydym wedi nodi o’r blaen, mae disgwyl cynnydd cyflym dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf.”

Mae'r dadansoddiad o achosion Omicron yn ôl ardal bwrdd iechyd fel a ganlyn.

Bwrdd Iechyd Cyfanswm o achosion
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro 23 (+9)
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 10 (+5)
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg 6 (+1)
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan 9 (+5)
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe 9 (+7)
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda 3 (+2)
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys 2 (+1)
Cyfanswm 62 (+30)


Ymholiadau'r Cyfryngau