News Centre

Cyhoeddi Cynllun Rhyddhad Ardrethi Lleol

Postiwyd ar : 14 Rhag 2021

Cyhoeddi Cynllun Rhyddhad Ardrethi Lleol

Yn ddiweddar, mae'r Tîm Ardrethi Busnes wedi anfon biliau diwygiedig at dalwyr ardrethi cymwys hysbys yn dilyn Cabinet y Cyngor yn cymeradwyo cynllun rhyddhad ardrethi lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r cyllid yn lleihau'r ardrethi sy'n daladwy ar gyfer 2021/22 yn achos y mwyafrif o fusnesau sy'n meddiannu eiddo busnes ac sydd â rhywfaint o ardrethi i'w talu. Mae'r rhyddhad ardrethi hwn wedi'i gyfyngu i uchafswm o ddau eiddo cymwys i bob talwr ardrethi. Nid yw eiddo gwag, eiddo sy'n talu dim, eiddo sy'n cael ei ddefnyddio gan gyrff praeseptio (er enghraifft, yr Heddlu a Chynghorau Cymuned) nac eiddo Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gymwys. I fod yn gymwys, rhaid i dalwyr ardrethi busnes feddiannu eiddo ar 1 Medi 2021, neu cyn hynny, a dim ond tra bydd yr eiddo'n cael ei feddiannu y bydd y rhyddhad ardrethi hwn yn berthnasol. Os byddwch chi'n gadael yr eiddo cyn 1 Ebrill 2022, bydd y rhyddhad ardrethi yn cael ei addasu yn ôl cyfran i gyd-fynd â chyfnod atebolrwydd meddiannu'r eiddo.

Er mwyn sicrhau bod y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio'n llawn, mae hyd at £535 o ryddhad ardrethi i bob eiddo cymwys yn cael ei ddyfarnu; mae'r union swm y bydd rhywun yn ei gael yn dibynnu ar swm yr ardrethi busnes sy'n weddill i'w dalu cyn dyfarnu'r rhyddhad hwn. Mae'r rhyddhad ardrethi hwn yn ddarostyngedig i derfynau ‘rheoli cymorthdaliadau’ (sef ‘cymorth gwladwriaethol’, gynt).

Os ydych chi'n dalwr ardrethi busnes yn ardal y Cyngor ac yn meddwl eich bod chi, o bosibl, yn gymwys ond heb gael bil diwygiedig, cysylltwch â'r Tîm Ardrethi Busnes drwy anfon e-bost i TrethiAnnomestig@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 863006, a byddwn ni'n gwirio a ydych chi'n gymwys.
 



Ymholiadau'r Cyfryngau