News Centre

Criwiau graeanu ar alwad dros y Nadolig

Postiwyd ar : 24 Rhag 2021

Criwiau graeanu ar alwad dros y Nadolig

Dyma'r adeg honno o'r flwyddyn eto – mae'n nosi'n gynt, mae’r gaeaf yn yr awyr ac mae cerbydau graeanu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn parhau i helpu trigolion i gadw symud.

Mae 13 o gerbydau graeanu ar gael i'r Cyngor eu defnyddio, ac mae modd gosod aradr eira ar bob un ohonyn nhw os oes angen. Mae hefyd tua 9,000 o dunelli o raean ar gael ar gyfer trin y ffyrdd yn ystod y nosweithiau rhewllyd.

Mae gan bob prif gerbyd graeanu y dechnoleg ddiweddaraf o ran dosbarthu graean, gan gynnwys olrheinwyr a systemau monitro halen, sy'n caniatáu i'r Cyngor raglennu'r cerbydau yn gywir, yn dibynnu ar y llwybr a'r tywydd. Mae hyn yn arwain at ddefnydd mwy effeithiol ac effeithlon o'r cyflenwadau graean, gan leihau costau a'r effaith amgylcheddol y mae'r halen yn ei chael ar ein Bwrdeistref Sirol.

Mae'r Cyngor yn rhoi blaenoriaeth i ffyrdd allweddol ar draws y Fwrdeistref Sirol – sy'n cynnwys y rhan fwyaf o lwybrau'r bysiau a'r llwybrau i safleoedd y gwasanaethau brys, cyfleusterau meddygol allweddol a chyfleusterau cyhoeddus – er mwyn sicrhau bod modd i brif rwydwaith y priffyrdd weithredu yn ystod tywydd garw. Mae'r llwybrau hyn yn unig yn mesur 301 o filltiroedd.

Ar hyn o bryd, mae dros 900 o finiau graean wedi'u gosod mewn mannau canolog fel bod modd i drigolion wasgaru graean ar y briffordd a'r mannau i gerddwyr os oes angen.

Meddai'r Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Isadeiledd ac Eiddo, “Hoffwn i ddiolch i bawb yn y criwiau graeanu sy’n helpu cadw ein ffyrdd i symud yn ystod misoedd y gaeaf.

Trwy gydol y gwyliau, tra bod llawer ohonom ni'n cysgu mewn gwelyau, yn aml ar benwythnosau, a hyd yn oed dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, bydd ein timau graeanu ni wrth gefn, yn barod i fynd allan ym mhob tywydd i'n helpu ni i gadw'n ddiogel ar y ffyrdd.

Nid yw’n bosibl trin pob ffordd a dylai gyrwyr bob amser gymryd gofal arbennig yr adeg hon o’r flwyddyn – peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ffordd wedi’i thrin neu ei bod yn rhydd o rew. Gall gymryd hyd at ddeg gwaith yn hirach i stopio mewn amodau rhewllyd – gyrrwch yn ofalus a meddwl am bobl eraill.”

Cofrestrwch ar gyfer rhybuddion eira a thywydd garw gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili https://public.govdelivery.com/accounts/UKCAERPHILLY/subscriber/new  

Mynnwch y rhagolygon diweddaraf gan y Swyddfa Dywydd ar-lein: www.metoffice.gov.uk

I gael gwybod rhagor am ein Cynllun Gwasanaeth y Gaeaf ni a sut a phryd rydyn ni'n graeanu, ewch i www.caerphilly.gov.uk/Services/Roads-and-pavements/Gritting-and-snow-clearing



Ymholiadau'r Cyfryngau