News Centre

Parcio am ddim yn rhoi hwb Nadoligaidd i ganol trefi

Postiwyd ar : 21 Rhag 2021

Parcio am ddim yn rhoi hwb Nadoligaidd i ganol trefi

Mae siopwyr yng nghanol trefi ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili yn parhau i fwynhau parcio am ddim mewn safleoedd talu ac arddangos sy'n eiddo i'r Cyngor yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig.

Mae Cyngor Caerffili yn awyddus i annog trigolion i gefnogi canol eu trefi lleol yn ystod yr amseroedd heriol hyn. Cafodd penderfyniad ei wneud yn ôl ym mis Mai 2020 i atal taliadau parcio dros dro a chafodd y polisi ei estyn yn ddiweddar am gyfnod pellach o 12 mis hyd at ddiwedd mis Medi 2022.

Mae'r penderfyniad wedi cael ei groesawu'n gan siopwyr a busnesau fel ei gilydd, ond roedd rhai meysydd parcio, fel yr un yn Crescent Road yng Nghaerffili, yn cael eu tanddefnyddio. Mae'r Cyngor wedi hyrwyddo'r safle hwn a safleoedd eraill yn ystod y misoedd diwethaf mewn ymgais i annog rhagor o bobl i fanteisio ar y lleoliad cyfleus gyda mynediad hawdd i ganol y dref.

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Isadeiledd ac Eiddo, “Hoffwn i ddiolch i’r gymuned am gefnogi canol ein trefi ni ar yr adeg allweddol hon o’r flwyddyn ac rydyn ni’n falch o wneud ein rhan ni drwy gynnig parcio am ddim ym mhob un o’n safleoedd ni. Bu cynnydd mawr yn y defnydd yn ein meysydd parcio ni, ac rydyn ni’n croesawu hynny'n fawr. Byddwn i’n annog trigolion i ddefnyddio ein meysydd parcio ni am ddim pryd bynnag y maen nhw’n gallu.”

 



Ymholiadau'r Cyfryngau