News Centre

​Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ymhlith yr awdurdodau lleol sy'n perfformio orau am gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer troseddau tipio anghyfreithlon yng Nghymru

Postiwyd ar : 22 Rhag 2021

​Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ymhlith yr awdurdodau lleol sy'n perfformio orau am gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer troseddau tipio anghyfreithlon yng Nghymru

Datgelodd adroddiad gan Lywodraeth Cymru a Taclo Tipio Cymru fod Caerffili yn un o’r cynghorau sy’n perfformio orau ar gyfer cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon yng Nghymru. 

Cafodd cyfanswm o 25,047 o gamau gorfodi gwastraff ei gofnodi gan awdurdodau lleol yng Nghymru dros y 12 mis rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021.

Mae'r rhain yn cynnwys erlyniadau, hysbysiadau cosb benodedig, ymchwiliadau a gwiriadau stopio a chwilio.

Er mwyn parhau ag ymdrechion ledled Cymru yn y frwydr hirdymor yn erbyn troseddau gwastraff, mae Taclo Tipio Cymru yn galw ar berchnogion tai yng Nghymru i sicrhau eu bod nhw'n cael gwared ar eu sbwriel gormodol nhw yn y cartref yn gyfrifol drwy ddilyn eu Dyletswydd Gofal Gwastraff nhw.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet dros Wastraff, Diogelwch y Cyhoedd a Strydoedd, “Yn anffodus, mae dros 70% o ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon yn cynnwys gwastraff cartref. Hoffwn i atgoffa deiliaid tai i amddiffyn eu hunain rhag cael eu herlyn drwy wirio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru bob amser bod y person maen nhw'n ei ddefnyddio i symud unrhyw sbwriel gormodol o'u cartrefi yn gludwr gwastraff cofrestredig.  Os yw swyddog gorfodi gwastraff yn olrhain sbwriel wedi'i dipio'n anghyfreithlon yn ôl i drigolyn na wnaeth y gwiriadau hyn, Fel arall, mae yna berygl iddynt dderbyn dirwy o hyd at £300 os canfyddir bod eu gwastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon

Dywedodd y Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd y Cyngor, “Fel pob sector arall, roedd swyddogion yn gweithio gyda llawer llai o bobl eraill oherwydd y pandemig, ac eto, mae'r ffaith eu bod nhw'n dal i allu cynyddu camau gorfodi yn dyst i waith caled ac ymrwymiad y tîm gorfodi, a barhaodd i fynd i'r afael â throseddau amgylcheddol yn ystod cyfnod heriol iawn. Rydyn ni bellach yn ôl i niferoedd llawn ac yn gobeithio y bydd llawer mwy o erlyniadau llwyddiannus yn 2021-22.”

I wirio a yw cwmni'n gludwr gwastraff cofrestredig, ffoniwch 0300 065 3000 neu fynd i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru naturalresources.wales/checkwaste?lang=cy

I roi gwybod i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am dipio anghyfreithlon www.caerffili.gov.uk/tipioanghyfreithlon

Mae ffigurau diweddaraf llywodraeth Cymru yn yr adroddiad yn datgelu bod tipio anghyfreithlon wedi cynyddu 22% yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae'n debyg bod hynny oherwydd y cyfyngiadau symud cenedlaethol i atal COVID-19 rhag lledaenu.

Menter aml-bartneriaeth yw Taclo Tipio Cymru sy'n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru a'i chydlynu gan Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon.
 



Ymholiadau'r Cyfryngau