News Centre

Gwaith yn Groes-faen Terrace, Bargod – Diweddariad 20/12/21

Postiwyd ar : 20 Rhag 2021

 Gwaith yn Groes-faen Terrace, Bargod – Diweddariad 20/12/21
Yn dilyn ymweliad safle diweddar a thrafodaethau â Dŵr Cymru, nid oedd yn bosibl parhau i weithio ar un groesfan gan ei bod yn debygol iawn y bydd yn achosi niwed i'r brif bibell ddŵr haearn bwrw fregus.
 
Mae gan Dŵr Cymru gynlluniau eisoes i adnewyddu'r brif bibell ddŵr haearn bwrw dros haf 2022.  Felly, bydd rhan olaf o ein gwaith adnewyddu draenio priffyrdd yn cael ei gwblhau mewn cydweithrediad â Dŵr Cymru y flwyddyn nesaf.
 
Bydd hyn yn sicrhau nad oes unrhyw darfu heb ei gynllunio ar y dŵr ar yr adeg hon, ac mae'n dal yn bosibl  cwblhau'r gwaith ar 23 Rhagfyr 2021.


Ymholiadau'r Cyfryngau