News Centre

Llwyddiant Marchnadoedd Bwyd a Chrefft y Gaeaf

Postiwyd ar : 20 Rhag 2021

Llwyddiant Marchnadoedd Bwyd a Chrefft y Gaeaf
Daeth dros 6,300 o ymwelwyr i ganol tref Coed Duon y penwythnos diwethaf ar gyfer y Farchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf olaf.

Cafodd Marchnadoedd Bwyd a Chrefft y Gaeaf eu trefnu ar gyfer canol pedair o drefi'r Fwrdeistref Sirol – Bargod, Ystrad Mynach, Caerffili a Choed Duon – yn ystod cyfnod y Nadolig, gyda'r farchnad yn Ystrad Mynach yn cael ei chanslo oherwydd Storm Arwen.

Roedd pob marchnad yn cynnwys rhwng 20 a 50 o stondinau bwyd a chrefft, detholiad o reidiau ffair hwyl i blant a rhaglen lawn o adloniant theatr stryd o'r safon uchaf.

Fe wnaeth y digwyddiadau arwain at ymwelwyr yn heidio i ganol trefi'r Fwrdeistref Sirol. Fe wnaeth y Farchnad ym Margod ddenu'r nifer uchaf o ymwelwyr ers 2014; fe wnaeth y Farchnad yng Nghaerffili ddenu dros 7,500 o ymwelwyr, sef cynnydd o 174% o'i gymharu â'r penwythnos blaenorol; ac fe wnaeth dros 6,300 o bobl ymweld â chanol tref Coed Duon, gan helpu cynyddu nifer yr ymwelwyr â'r dref 22% o'i gymharu â'r penwythnos blaenorol.

Roedd y marchnadoedd yn gyfle perffaith i ymwelwyr siopa'n lleol – mae canol y trefi dan sylw yn cynnig dewis o siopau annibynnol gyda syniadau ar gyfer anrhegion trawiadol, ac mae hefyd nifer o siopau'r stryd fawr a lleoliadau bwyta allan bendigedig.

Meddai'r Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet dros Berfformiad, yr Economi a Menter, “Mae'n wych gweld ymwelwyr yn mwynhau ac yn cefnogi canol ein trefi eto. Mae gan y stryd fawr leol gymaint i'w gynnig; dylen ni i gyd geisio siopa'n lleol y Nadolig hwn os gallwn ni.”


Ymholiadau'r Cyfryngau