News Centre

Llwyddiant Marchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Caerffili

Postiwyd ar : 08 Rhag 2021

Llwyddiant Marchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Caerffili
Dros 7,500 o ymwelwyr â chanol tref Caerffili ar gyfer Marchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf.

Cafodd canol tref Caerffili ei thrawsnewid yn wledd aeafol ar y penwythnos, gyda thua 50 o stondinau bwyd a chrefft, detholiad o reidiau ffair hwyl i blant a rhaglen lawn o adloniant theatr stryd o'r safon uchaf.

Fe wnaeth y digwyddiad ddenu dros 7,500 o ymwelwyr i ganol tref Caerffili, sef cynnydd o 174% o'i gymharu â'r penwythnos blaenorol, gyda'r mwyafrif o fasnachwyr yn gwerthu eu holl stoc yn achos rhai eitemau.

Meddai'r Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet dros Berfformiad, yr Economi a Menter, “Mae'n wych gweld ymwelwyr yn mwynhau canol ein trefi eto. Mae gan y stryd fawr leol gymaint i'w gynnig; dylen ni i gyd geisio siopa'n lleol y Nadolig hwn os gallwn ni.”

Bydd y Farchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf olaf yn cael ei chynnal yng nghanol tref Coed Duon y penwythnos hwn.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.visitcaerphilly.com/cy/events, ffonio Canolfan Croeso Caerffili ar 029 2088 0011, neu e-bostio digwyddiadau@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau