Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Rhagfyr 2021
Llwyddiant ar gyfer Diwrnod Plannu Coedwig Fach Caerffili
News Centre
Llwyddiant ar gyfer Diwrnod Plannu Coedwig Fach Caerffili
Postiwyd ar : 01 Rhag 2021
Mae 600 o goed wedi cael eu plannu gan gymuned Caerffili ym Mharc Morgan Jones yn dilyn Diwrnod Plannu Cyhoeddus llwyddiannus.
Cafodd y digwyddiad ei gynnal gan y grŵp, Gweithredu Hinsawdd Caerffili, ac roedd yn cynnwys plannu 600 o goed yn ogystal â gweithgareddau llawn hwyl i'r teulu cyfan.
Fe wnaeth ysgolion, Llamau (Dysgu am Oes) a'r cyhoedd i gyd gymryd rhan, gyda 450 o bobl yn dod i'r Diwrnod Plannu Cyhoeddus ar Ddiwrnod Gweithredu Byd-eang (6 Tachwedd). Fe wnaeth tua 700 o bobl hefyd ymweld â'r Parc i gymryd rhan mewn gweithgareddau, gan gynnwys Coeden Ddiolchgarwch 30 troedfedd o hyd – wedi'i chreu gyda'r Arlunydd Tir, Kate Raggett – paentio wynebau, cerddoriaeth, dawnsio, adrodd storïau, gemau a chrefftau.
Roedd y digwyddiad yn nodi dechrau Coedwig Fach Caerffili, sef coedwig fach iawn sy'n cael ei chreu drwy ddefnyddio dull wedi'i ddatblygu gan fotanegydd o Japan, o'r enw Akira Myawaki. Mae'r goedwig wedi'i chynllunio i dyfu 10 gwaith yn gyflymach na choedwig gonfensiynol ac mae'n darparu llu o fuddion i helpu brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.
Mae Coedwig Fach Caerffili yn cynnwys ystafell ddosbarth awyr agored a phrosiectau gwyddoniaeth dinasyddion, a hi yw'r Goedwig Fach gyntaf dan arweiniad y gymuned yng Nghymru ac mae disgwyl iddi fod wrth galon y gymuned leol am flynyddoedd lawer.
Meddai Kate Raggett, Arlunydd Tirwedd, “Roeddwn i'n teimlo ei bod hi'n anrhydedd cael bod yn rhan o'r digwyddiad lleol hwn, sydd o bwys yn amgylcheddol, a chael cyfle i lunio coeden fawr i ddathlu a diolch i'r holl goed.”
Ychwanegodd y Cynghorydd lleol, Jamie Pritchard, “Mae wedi bod yn wych i fod yn rhan o'r prosiect dros y 14 mis diwethaf a gweld y gymuned i gyd yn dod at ei gilydd. Bydd y Goedwig Fach yn gaffaeliad mawr i'r Fwrdeistref a bydd yn fan gwyrdd i bawb ei fwynhau am flynyddoedd i ddod. ”
Cafodd y prosiect Coedwig Fach ei ariannu gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, Llywodraeth Cymru; ei weinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru; a'i chreu gan Gweithredu Hinsawdd Caerffili, sef grŵp gwirfoddol lleol sydd wedi ymrwymo i gymryd camau i feithrin cydnerthedd Caerffili i newid hinsawdd ac i weithio gyda'r gymuned ar fentrau hinsawdd cadarnhaol.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Rhybudd i drigolion Bargod am alwyr diwahoddiad yn cynnig ail-chwistrellu patios
Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon wedi’i hagor yn swyddogol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Teyrngedau i'r cyn Faer
Cwpl o Drelyn yn cael eu dedfrydu am droseddau lles anifeiliaid a bridio cŵn yn anghyfreithlon
Trawsnewid bywydau trwy brosiect Allweddi Caerffili
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y