News Centre

Rhybudd diogelwch o ran calendr adfent teganau ffidlan

Postiwyd ar : 08 Rhag 2021

Rhybudd diogelwch o ran calendr adfent teganau ffidlan
Lefel uchel o gemegion mewn calendr adfent teganau ffidlan.

Mae swyddogion Safonau Masnach yn cynghori unrhyw un sydd wedi prynu'r calendr i beidio â'i roi i blant ac i'w ddychwelyd i'r manwerthwr ar unwaith.

Yn ôl profion ar y teganau yn y calendr adfent, mae gormod o'r cemegyn bis(2-ethylhecsyl) ffthalad (DEHP), sy'n cael ei ddefnyddio yn y broses weithgynhyrchu i feddalu plastig. Gall hyn niweidio iechyd plant, gan achosi niwed posibl i'w system atgenhedlu.

Fe wnaeth y cynnyrch hefyd fethu â dangos manylion y gwneuthurwr neu'r mewnforiwr, ac nid yw'n bodloni gofynion Rheoliadau Teganau (Diogelwch) 2011, sydd ar waith i sicrhau dim ond teganau diogel sydd ar gael i'w prynu yn y Deyrnas Unedig.

Meddai'r Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet dros Wastraff, Diogelwch y Cyhoedd a Strydoedd: “Mae hwn, wrth gwrs, yn brif gyfnod ar gyfer prynu a gwerthu teganau, felly, mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n cadw'n effro ynghylch diogelwch teganau.

“Os ydych chi'n meddwl eich bod chi, o bosibl, wedi prynu un o'r calendrau adfent hyn, y cyngor yw peidio â'i agor, na gadael i blant chwarae â'r teganau sydd y tu mewn iddo, a dychwelyd y calendr i'r manwerthwr lle gwnaethoch chi ei brynu. Mae gennych chi'r hawl i gael ad-daliad llawn.”

Rhaid i bob tegan sy'n cael ei gwerthu gan fanwerthwyr yn y Deyrnas Unedig fod yn ddiogel, a rhaid i fewnforwyr brofi'r teganau i sicrhau eu bod nhw'n bodloni gofynion diogelwch cyn eu gwerthu nhw.

Os ydych chi'n prynu tegan, dylech chi wirio bod y marciau ‘CE’ neu ‘UKCA’ ar y cynhyrchion, a'u bod nhw'n dangos cyfeiriad y mewnforiwr neu'r gwneuthurwr yn y Deyrnas Unedig. Mae gan ddeiliad y cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig gyfrifoldeb cyfreithiol am ddiogelwch y cynnyrch.

Os oes gennych chi unrhyw bryderon am ddiogelwch teganau, cysylltwch â Safonau Masnach Caerffili – SafonauMasnach@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau