News Centre

Lansio tîm newydd yn y Cyngor i fynd i'r afael ag eiddo gwag

Postiwyd ar : 10 Rhag 2021

 Lansio tîm newydd yn y Cyngor i fynd i'r afael ag eiddo gwag
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi lansio tîm newydd i fynd i'r afael ag eiddo gwag.

Mae Cabinet y Cyngor wedi caniatáu sefydlu'r tîm er mwyn mynd ati i ddelio â chartrefi gwag ledled y Fwrdeistref Sirol ac fel rhan o gynlluniau ehangach i ddelio ag eiddo gwag, yn enwedig yng nghanol trefi.

Mae cynllun gweithredu wedi cael ei ddatblygu sy'n nodi cyfres o gamau i adeiladu ar waith cyfredol y Cyngor o ran ymgysylltu â pherchnogion eiddo gwag a sicrhau bod yr eiddo'n cael eu defnyddio eto.

Mae hefyd gan y tîm bwerau i gymryd camau gorfodi mewn achosion lle mae eiddo preswyl yn achosi pryder sylweddol.

Meddai'r Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ofal Cymdeithasol a Thai, “Hoffwn i groesawu'r aelodau newydd o staff i Dîm Caerffili, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw i fynd i'r afael â'r mater hwn.

“Yn ogystal â bod yn ddolur llygad yn ein cymunedau ni, gall eiddo gwag tymor hir hefyd ddenu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Er bod y Cyngor, ers sawl blwyddyn, wedi rhoi cymorth i berchnogion i sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio eto, bydd y tîm pwrpasol hwn yn ychwanegu at y gwaith hwn.

“Yn ogystal â gwella cymunedau lleol, bydd y tîm hefyd yn cydweithio â thîm Atebion Tai y Cyngor er mwyn, o bosibl, ddefnyddio'r cartrefi hyn – a oedd yn arfer bod yn wag – i helpu diwallu'r angen o ran tai yn y Fwrdeistref Sirol ac atal digartrefedd.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i sicrhau bod eiddo gwag yn cael eu defnyddio eto, cysylltwch â'r tîm ar 01443 811375 neu TaiSectorPreifat@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau