News Centre

Sicrhau cyn lleied â phosibl o wastraff y cartref adeg y Nadolig

Postiwyd ar : 15 Rhag 2021

Sicrhau cyn lleied â phosibl o wastraff y cartref adeg y Nadolig
Rydyn ni'n cynhyrchu mwy o wastraff adeg y Nadolig nag unrhyw adeg arall o'r flwyddyn, felly, mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni i gyd yn ceisio ailgylchu lle gallwn ni.

Mwy o wastraff bwyd, papur lapio a blychau cardbord – mae yna ddigon o wastraff sy'n gallu cael ei ailgylchu. Dyma rai o'n hawgrymiadau defnyddiol ni i sicrhau cyn lleied â phosibl o wastraff y cartref adeg y Nadolig.
 
1. Rydyn ni'n cynhyrchu llawer mwy o wastraff bwyd adeg y Nadolig nag ar adegau eraill o'r flwyddyn, felly, mae'n bwysig sicrhau ein bod ni'n ailgylchu popeth y gallwn ni ei ailgylchu.

Disgwyl mwy o wastraff bwyd nag arfer? Oeddech chi'n gwybod bod modd gofyn am gadi gwastraff bwyd ychwanegol am ddim?

Gwneud cais ar-lein yma.
 
2. Oeddech chi'n gwybod nad oes modd ailgylchu pob math o bapur lapio?

Er mwyn sicrhau ailgylchu eich papur lapio eleni, cofiwch osgoi papur sy'n cynnwys ffoil neu gliter, a chadw llygad am y logo sy'n dangos bod modd ei ailgylchu.
 
3. Yn ystod tymor y Nadolig, rydyn ni'n creu mwy o wastraff nag ar unrhyw adeg arall o'r flwyddyn, felly, mae'n gyfle gwych i ailgylchu popeth y gallwn ni ei ailgylchu gartref.

Oeddech chi'n gwybod, os nad oes lle yn eich bin ailgylchu, fod modd rhoi'r eitemau ychwanegol mewn bagiau plastig clir yn barod i'w casglu?
 
4. Oeddech chi'n gwybod ein bod ni'n defnyddio mwy o gardbord dros y Nadolig nag ar unrhyw adeg arall o'r flwyddyn?

Cofiwch dorri'r holl flychau cardbord yn ddarnau llai cyn eu rhoi nhw yn eich bin ailgylchu, yn barod i'w casglu.
 
5. Mae'r mwyafrif o gardiau yn rhai papur, ac mae modd eu hailgylchu nhw a'r amlenni. Nid oes modd ailgylchu addurniadau (megis rhubanau neu gliter), felly, rhwygwch y darnau hynny i ffwrdd yn gyntaf.

6. Mae modd cael gwared ar goed Nadolig ‘go iawn’ yn eich Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref leol, neu eu torri nhw'n ddarnau hawdd eu trin a'u rhoi nhw yn y man casglu wrth ymyl y ffordd.I gael rhagor o wybodaeth am Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, a'r oriau agor, ewch i: www.caerffili.gov.uk/CanolfannauAilgylchu


Ymholiadau'r Cyfryngau