News Centre

COVID-19 - diweddariad i rieni a gofalyddion

Postiwyd ar : 08 Rhag 2021

COVID-19 - diweddariad i rieni a gofalyddion

Annwyl Rieni/Ofalyddion.

Dydw i ddim wedi ysgrifennu am COVID-19 ers tipyn, ond, mae'n ymddangos ein bod ni
wedi dychwelyd i sefyllfa sy'n symud yn gyflym eto.

Nid yn unig ydyn ni wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion o COVID-19 yn rhai o'n hysgolion ni yn ystod yr wythnos diwethaf, ond, mae'r newyddion am yr amrywiolyn Omicron yn amlwg wedi peri pryder.

Mewn ymateb i hyn rydym wedi derbyn arweiniad newydd gan Lywodraeth Cymru sy'n nodi "y dylai disgyblion a staff mewn ysgolion uwchradd wisgo masgiau ym mhob ardal y tu mewn i'r ysgol lle na ellir cynnal pellter cymdeithasol, gan gynnwys ystafelloedd dosbarth." Yn ôl yr adborth gan Benaethiaid, mae'r disgyblion wedi ymateb yn gadarnhaol yn gyffredinol (mae eithriadau am resymau iechyd yn dal i fod yn berthnasol).

Mae gan ysgolion uwchradd orchuddion wyneb sbâr ar gyfer y rhai sydd wedi eu hanghofio nhw, yn ogystal â digon o brofion llif unffordd (LFD), a byddem ni'n eich annog chi i ddefnyddio'r profion hyn yn rheolaidd gartref. Byddwn ni'n parhau â'r arfer hwn tan ddiwedd y tymor ac, yna, rydw i'n disgwyl adolygiad o'r sefyllfa.

Fodd bynnag, mae'n bwysig ein bod ni a Llywodraeth Cymru yn monitro hyn oherwydd mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ysgolion gymryd rhai mesurau, heb gynnwys cau, oherwydd lefelau uwch o absenoldeb staff a phrinder staff cyflenwi.

Mae'r canllawiau gan Lywodraeth Cymru ar gael yma https://llyw.cymru/gweithrediadau-ysgol-coronafeirws

Mae llawer o sôn yn y cyfryngau bod Llywodraeth Cymru yn trafod cau ysgolion yn gynnar ar ddiwedd y tymor. Dydyn ni ddim yn ymwybodol o unrhyw gynlluniau o'r fath ar hyn o bryd, ond, bydd adolygiad 3-wythnos nesaf Llywodraeth Cymru yn cael ei gynnal ddydd Gwener 10 Rhagfyr, felly, bydd angen i ni aros i weld a fydd unrhyw newidiadau i'r canllawiau cyfredol.

Yn y cyfamser, byddwch yn amyneddgar â'r ysgolion; maen nhw'n gwneud popeth o fewn eu gallu i ddiogelu'r disgyblion yn yr ysgol a chyfyngu ar unrhyw aflonyddwch posibl i'w dysgu.

Diolch am eich cymorth a'ch dealltwriaeth barhaus yn ystod y cyfnod ansicr hwn.

Rydw i'n mawr obeithio y byddwch chi'n mwynhau Nadolig diogel, teuluol.

Cofion

Keri Cole, Prif Swyddog Addys



Ymholiadau'r Cyfryngau