News Centre

Cyngor ar fin cyflwyno cais cynllunio ar gyfer datblygiad tai uchelgeisiol

Postiwyd ar : 09 Rhag 2021

Cyngor ar fin cyflwyno cais cynllunio ar gyfer datblygiad tai uchelgeisiol
Mae tîm Cartrefi Caerffili, sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, wedi cyhoeddi y bydd yn cyflwyno cynigion yn ffurfiol ar gyfer datblygiad tai deiliadaeth gymysg, uchelgeisiol, newydd ar safle hen Ysgol Gyfun Oakdale.

Mae'r Cyngor eisoes wedi cynnal astudiaethau dichonoldeb i asesu addasrwydd y safle tir llwyd. Os bydd y cynigion cynllunio yn llwyddiannus, y datblygiad fydd y cyntaf o'i fath i'r Cyngor wrth gynnig gwerthu ar y farchnad agored ochr yn ochr â thai fforddiadwy a chymdeithasol.

Cafodd ymgynghoriad ei gynnal cyn y cam cynllunio, ac mae'r Cyngor wedi ymateb i sylwadau'r gymuned leol. Ymhlith y sylwadau hyn roedd pryderon am y cynigion ar gyfer ail fynedfa i'r datblygiad trwy Ystâd Penmaen. O ganlyniad i'r pryderon hyn, mae'r Cyngor wedi diwygio'r strategaeth fynediad ar gyfer y safle drwy gadw'r fynedfa ddwyreiniol drwy ffin y datblygiad a chael gwared â'r fynedfa ddeheuol.

Cafodd pryderon am draffig hefyd eu codi gan y gymuned leol; mae'r Cyngor wedi dweud y bydd symudiadau traffig o'r datblygiad newydd yn llai na defnydd blaenorol y safle fel ysgol gyfun.

Mae'r Cyngor hefyd wedi cadarnhau y bydd yr Ardoll Seilwaith Cymunedol yn cael ei defnyddio i gyflawni'r isadeiledd sydd ei angen ar gyfer cynnal y datblygiad, gan fod hon yn thema gyffredin a gafodd ei chodi yn ystod yr ymgynghoriad.

Mae ymchwiliadau helaeth wedi cael eu gwneud mewn ymateb i ymholiadau ynghylch ymsuddo posibl ar y safle, ac ni chafodd tystiolaeth o hyn ei darganfod. Mae'r Cyngor hefyd wedi cadarnhau y bydd cynlluniau ar gyfer y datblygiad yn gwella'r mannau gwyrdd ac yn cadw'r mwyafrif o goed presennol ar y safle, yn enwedig y rhai ar hyd yr ymylon.

Ar hyn o bryd, mae'r opsiynau'n cael eu harchwilio ar gyfer y posibilrwydd o adleoli'r man chwarae amlddefnydd ar y safle, a bydd y gymuned yn cael gwybod y diweddaraf am y cynigion.

Meddai'r Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ofal Cymdeithasol a Thai, “Os bydd y cynlluniau'n cael eu cymeradwyo, bydd y safle tir llwyd hwn yn cyflwyno cyfoeth o botensial i ddarparu tai cymdeithasol newydd y mae mawr eu hangen i helpu ateb y galw cynyddol, ochr yn ochr â chyfleoedd i'r rhai sydd eisiau prynu eiddo am y tro cyntaf drwy berchentyaeth cost isel.

“Rydyn ni'n deall y bu rhai pryderon yn y gymuned leol, ac rydyn ni'n rhoi sicrwydd bod y materion hyn wedi cael eu hystyried a chael sylw fel rhan o'r broses gynllunio. Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod y gymuned leol yn cael gwybod y diweddaraf wrth ddatblygu'r cynlluniau ar gyfer y safle.”


Ymholiadau'r Cyfryngau